Mae tri o fusnesau digidol mwya’r byd wedi ymuno mewn brwydr yn erbyn yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau tros ddiogelwch ffonau symudol.
Mae penaethiaid Twitter a Facebook wedi mynegi cefnogaeth i gwmni Apple, sy’n gwrthod helpu Llywodraeth yr Unol Daleithiau i ‘dorri i mewn’ i ffôn symudol.
Er fod y cais yn ymwneud ag un ffôn penodol a oedd y eiddo i ddau lofrudd jihadaidd, mae’r cwmni’n dadlau y byddai ildio i’r cais yn gwanhau diogelwch ffonau pawb.
Y cefndir
Mae ynad wedi rhoi gorchymyn i Apple ddileu darpariaethau diogelwch a fyddai’n atal ymchwilwyr y llywodraeth rhag dyfalu cyfrinair ffôn Syed Farook a Tashfeen Malik a laddodd 14 o bobol yn San Bernardino.
Yn ôl Apple, fe fyddai peryg fod y feddalwedd wedyn yn gallu cael ei defnyddio i fynd i mewn i ffonau eraill, gan bobol heblaw’r llywodraeth.
Wrth fynegi gwrthwynebiad i frawychiaeth, mae llefarwyr ar ran Twitter a Facebook hefyd wedi dweud eu bod yn erbyn dim a fyddai’n lleihau diogelwch eu cwsmeriaid.
Mae gan Apple hyd at ddydd Mawrth i herio’r gorchymyn.