Un o loriau'r cwmni (llun cyhoeddusrwydd o'u gwefan)
Mae achubwyr tân yn parhau i fod ar safle gwaith glanhau dillad gwely a llieiniau bwrdd yng Nghyffordd Llandudno ar ôl i dân mawr ddechrau yno dros nos.

Mae tai cyfagos wedi cael eu clirio rhag ofn i’r fflamau a mwg ledu wrth i achubwyr tân geisio rheoli’r tân ar safle’r cwmni Express Linen Services.

Doedd neb y tu fewn i’r eiddo ond mae un dyn wedi cael ei drin am anadlu mwg ac mae’r heddlu yn gofyn i bobol osgoi’r ardal ar hyn o bryd.

Cefndir

Cafodd y Gwasanaeth Tân eu galw am tua 7:30 neithiwr i’r gwaith yn y dref a bu 40 o ddiffoddwyr yn ceisio ymladd y fflamau.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda’i gilydd i gadw’r tân dan reolaeth.

Fe fydd ymchwiliad yn dechrau i geisio dod o hyd i’r achos.

  • Mae gan Express Linen Services tua 400 o gwsmeriaid ar draws gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru – fe brynon nhw gwmni Vale Textile Services yng Nghyffordd Llandudno yn 2000.