Cyfarfod cynharach rhwng David Cameron a Donald Tusk (PA)
Fe fu Prif Weinidog Prydain mewn trafodaethau ym Mrwsel hyd oriau dyn y llaeth mewn ymgais ola’ i gael cytundeb ar berthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl cyfarfodydd hyd at 5.30 y bore yn amser gwlad Belg, fe ddywedodd cadeirydd y trafodaethau, Donald Tusk, fod yna “arwyddion addawol” ond fod “llawer o waith i’w wneud”.

Fe fydd ef a David Cameron yn cael trafodaeth arall tuag amser cinio heddiw ond, erbyn hynny, fe fydd amser yn brin.

Os na fydd cytundeb, mae’n debygol na fydd modd cynnal refferendwm Ewrop ym mis Mehefin.

Y trafodaethau

Roedd y cinio ar gyfer holl arweinwyr y 298 gwlad wedi parhau tan ar ôl 2 y bore ac wedyn fe fu David Cameron mewn trafodaethau gyda Donald Tusk, Llywydd Cyngor Ewrop, a Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc.

Mae’n debyg fod Prif Weinidogion Tsiecoslofacia a Gwlad Belg wedi bod yn rhan o’r sgyrsiau hefyd, gan roi syniad o natur y problemau.

Yn ôl llefarydd ar ran rhif 10 Downing Street, mae’r rheiny’n cynnwys taliadau lles i fewnfudwr, cyfyngiadau ar fudd-dal plant i fewnfudwyr, perthynas y Deyrnas Unedig a pharth yr Ewro, newid cytundebau, eithrio’r Deyrnas Unedig o ‘glosio gwleidyddol’.

Mae’n ymddangos hefyd bod rhai gwledydd eisiau cytundeb ‘unwaith ac am byth’ a fyddai’n rhwystro Llywodraeth Prydain rhag dod yn ôl i ofyn am ragor os bydd pleidlais y refferendwm o blaid gadael.

  • Gobaith David Cameron oedd gallu gadael Brwsel yn gynnar yn y prynhawn, cynnal cyfarfod o’r Cabinet yn Llundain a galw’r refferendwm, fwy na thebyg ar 23 Mehefin.