Carwyn Jones yn annerch cynhadledd y llynedd (PA)
Fe fydd Carwyn Jones yn dweud mai dim ond hanner ffordd drwy eu gwaith y mae Llywodraeth Lafur Cymru a bod angen pum mlynedd arall arni.

Dyna fydd neges y Prif Weinidog i gynhadledd Gymreig ei blaid yn Llandudno, sy’n dechrau heddiw.

Fe fydd y blaid yn paratoi i ymladd etholiadau’r Cynulliad eleni ar ôl bod mewn grym ers cychwyn y broses ddatganoli 17 mlynedd yn ôl.

Ond mae cefnogaeth Llafur wedi llithro rhywfaint yn ddiweddar, gyda’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu nad ydyn nhw’n debygol o ddod yn agos at ennill mwyafrif clir ym Mae Caerdydd ym mis Mai.

 ‘Cyflawni addewidion’

Mae Carwyn Jones yn mynnu hefyd y byddai clymblaid o’r pleidiau eraill, megis Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr, yn “cyfuno diffyg dealltwriaeth economaidd gyda thoriadau anferth i wasanaethau” – ond mae Plaid Cymru eisoes wedi gwrthod y syniad hwnnw.

Ond ei brif honiad fydd fod ei blaid wedi cyflawni addewidion y pum mlynedd ddiwethaf, er gwaethaf y dynfa ariannol.

“Mae cynhadledd eleni a’r etholiad sydd ar y gweill yn nodi hanner ffordd yn ein degawd o gyflawni,” meddai’r Prif Weinidog. “Rydyn ni wedi cyflawni’r holl addewidion wnaethon ni eu gosod yn 2011 er gwaethaf toriadau enfawr gan y Torïaid, a nawr mae’n rhaid i ni ennill eto i adeiladu ar ein record.”

‘Rhaid ennill gyntaf’

Gyda Llywodraeth Cymru dan y lach yn aml gan y gwrthbleidiau mewn sawl maes, gan gynnwys iechyd ac addysg, mynnodd Carwyn Jones bod lle i fod yn obeithiol.

“Mae Cymru ar i fyny. Canlyniadau arholiadau, ffigyrau cyflogaeth, cyfraddau goroesi canser – i gyd yn cynyddu. Wrth weithio gyda’n gilydd dros Gymru mae gan ein gwlad ddyfodol ddisglair.

“Rydyn ni’n gwybod bod ein haddewidion etholiadol yn mynd i wneud gwahaniaethau i fywydau pobl – y gofal plant mwyaf hael ym Mhrydain, torri trethi busnesau bach, Cronfa Driniaethau newydd i’r gwasanaeth iechyd – mae’r rhain i gyd yn flaenoriaethau ar gyfer y tymor nesaf.

“Ond yn gyntaf. Mae’n rhaid i ni ennill.”