Cynlluniau 'uchelgeisiol' ar y gweill gan Leanne Wood a'i phlaid
Wrth lansio ymgyrch Plaid Cymru ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn Llandudno heddiw, dywedodd arweinydd y blaid ei bod hi’n bryd rhoi’r gorau i esgeuluso’r gogledd.

Addawodd Leanne Wood y byddai ei phlaid yn cyflwyno cynllun clir ac uchelgeisiol er mwyn adfer yr ardal.

Ar frig agenda’r blaid wrth lansio’u hymgyrch heddiw roedd torri amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd, cefnogi busnesau bychain yr ardal a buddsoddi mewn isadeiledd i greu swyddi ac i roi hwb i’r economi leol.

Cyn y lansiad, roedd Leanne Wood wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru am “esgeulustod hirdymor” o’r gogledd, a’u cyhuddo o wastraffu miliynau o bunnoedd ar rannau bychain o’r M4 ac o beidio rhoi sylw i’r ffyrdd eraill a rheilffyrdd yng ngweddill Cymru.

‘Gwasgaru ffyniant i bob rhan o Gymru’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: “Mae buddiannau gogledd ein gwlad wrth galon amcanion Plaid Cymru ac mae ein rhaglen i lywodraethu yn adlewyrchu hyn.

“Rydym wedi ymrwymo i wasgaru ffyniant i bob cwr o Gymru a sicrhau bod pob cymuned o Langefni i Langollen yn profi adferiad economaidd.

“Mae esgeulustod hir-dymor Llywodraeth Lafur Cymru o’r gogledd wedi gadael y rhanbarth ar y droed ôl o ran perfformiad economaidd.

“Yn ddiweddar, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i roi terfyn ar hyn drwy fuddsoddi mewn isadeiledd ledled y rhanbarth.

“Byddem yn rhoi cynlluniau i wella’r A55 ar waith yn syth, a dwyn pwysau ar lywodraeth San Steffan i gyflymu’r gwaith o drydaneiddio prif reilffordd y gogledd.”