Kial Ahmed a Roxanne Deacon yn gwadu llofruddio Nadia Jones
Fe fydd dyn a dynes yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd fis nesaf wedi’u cyhuddo o lofruddio dynes 38 oed yn y brifddinas.

Mae Kial Ahmed, 34 o Dongwynlais, a Roxanne Deacon, 26 o Grangetown, wedi’u cyhuddo o lofruddio Nadia Jones, 38, yn ei fflat yn Nhremorfa ar Fedi 11 y llynedd.

Plediodd y ddau yn ddieuog.

Maen nhw hefyd yn gwadu cynllwynio i ladrata.

Bydd yr achos yn dechrau ar Fawrth 7.