Angen i heddluoedd y Gogledd a Dyfed Powys 'wella'
Mae dau o ymgeiswyr Llafur yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd wedi herio heddluoedd Gogledd Cymru a Dyfed Powys yn dilyn adroddiadau beirniadol.

Cafodd heddluoedd y ddwy ardal wybod bod ‘angen iddyn nhw wella’ yn dilyn adroddiad gan Arolygaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi.

Roedd yr arolwg yn cynnwys pob un o heddluoedd Cymru a Lloegr a chafodd heddluoedd De Cymru a Gwent ddyfarniad ‘Da’ – yr ail orau o bedwar categori.

Ond fe ddywedodd yr adroddiad fod yn rhaid i heddluoedd y Gogledd a Dyfed Powys wella’u proses asesu risg pan fo pobol yn cysylltu’r tro cyntaf, ac nad yw swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n briodol yn cael eu hanfon i ymchwilio i rai achosion.

‘Camreoli’

Gydag etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu yn cael eu cynnal ym mis Mai, mae ymgeisydd Llafur ar gyfer Dyfed Powys, Kevin Madge, yn ddigon parod i feio “camreoli” y Ceidwadwyr am fethiannau heddlu’r ardal.

“Mae’r ffaith bod Christopher Salmon [y Comisiynydd Ceidwadol presennol] mor ddiystyriol o’r pryderon sy’n cael eu codi gan HMIC yn peri gofid difrifol,” meddai.

“Mae’n amlwg bod problemau ac fe fydd ymgais i’w sgubo o’r neilltu, yn enwedig gan warchodwyr heddlu Prydain, yn tanseilio ffydd yn ei allu i ddatrys y problemau hyn.”

Ychwanegodd David Taylor, ymgeisydd Llafur fel Comisiynydd y Gogledd, bod y Comisiynydd presennol, Winston Roddick yn “ei ganmol ei hun pan fo’n amlwg bod problemau difrifol”.