Mae 53 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a thryc yn Ghana.

Digwyddodd y gwrthdrawiad nos Fercher yn nhref Kintampo.

Mae 18 o oedolion a phump o blant wedi goroesi.

Mewn teyrnged ar Twitter, dywedodd Arlywydd y wlad, John Dramani Mahama ei fod yn estyn ei gydymdeimlad i’r teuluoedd yn eu galar.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth oedd wedi achosi’r gwrthdrawiad yn y wlad lle cafodd mwy na 1,600 o bobol eu lladd mewn gwrthdrawiadau’r llynedd.