Perthynas yr UDA a Chiwba wedi gwella ers 2014
Fe fydd Barack Obama yn ymweld â Chiwba fis nesaf – y tro cyntaf ers 88 o flynyddoedd i Arlywydd yr UDA ymweld â’r ynysoedd.

Yr ymweliad hon fydd y cam nesaf yn y broses o wella’r berthynas rhwng y ddwy wlad, sydd wedi bod dan straen ers degawdau.

Bydd Obama yn cwrdd â Raul Castro, arlywydd y wlad gomiwnyddol, yn ystod ei ymweliad ar ôl i’r ddwy wlad ailsefydlu cysylltiadau diplomyddol yn 2014.

Beirniadaeth

Mae’r daith wedi cael ei beirniadu gan rai yn yr UDA, fodd bynnag, gan gynnwys ymgeiswyr arlywyddol y Gweriniaethwyr, sydd yn gwrthwynebu gweld y ddwy wlad yn closio.

Dywedodd Ted Cruz na ddylai Obama ymweld â’r wlad tra bod y teulu Castro yn parhau i reoli ac roedd Marco Rubio, sydd yn blentyn i ymfudwyr o Giwba, hefyd yn feirniadol.

Mae Barack Obama wedi bod yn awyddus i wella’r berthynas rhwng America a Chiwba yn ystod ei flynyddoedd olaf fel arlywydd, a hynny ar ôl hanner canrif o densiynau ers y chwyldro comiwnyddol yno.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe arwyddodd y ddwy wlad gytundeb a fydd yn caniatáu i deithiau awyr masnachol ailddechrau, gan olygu ei bod hi’n haws i drigolion sy’n hanu o Giwba ond sy’n byw yn yr UDA i ymweld â’u teuluoedd ar yr ynys.