Mae gwraig weddw 92 oed wedi cael ei gorfodi i ddychwelyd i Dde Affrica er gwaethaf nam ar ei golwg, a’r ffaith nad yw hi’n gallu cerdded ar ei phen ei hun.

Mae hi’n derbyn gofal gan ei hunig ferch yn ei chartref yn Poole yn Swydd Dorset, a does ganddi ddim teulu yn Ne Affrica.

Mae hi hefyd yn dioddef o wendid ar y galon.

Roedd hi wedi gwneud cais i aros yng ngwledydd Prydain, ond cafodd y cais ei wrthod, a bydd hi’n hedfan yn ôl i’w mamwlad ddydd Mawrth.

Mae mwy na 50,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Lywodraeth Prydain i’w galluogi i aros yn Swydd Dorset, ac mae ei merch wedi dweud ei bod hi’n gofidio y gallai’r daith hir ar awyren ladd ei mam.

Mae cyfreithwyr ar ran y teulu wedi beirniadu’r awdurdodau.