Byddai pleidlais i Blaid Cymru yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4 yn rhoi llais i ffermwyr Cymru yn San Steffan, ac yn rhoi feto iddyn nhw ar gytundebau masnach yn y dyfodol, yn ôl y Blaid.
Dywed Ann Davies, ymgeisydd y Blaid yn etholaeth Caerfyrddin, fod y Blaid yn “falch o fod ar ochr ffermio yng Nghymru, yn wyneb yr heriau difrifol mae’r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd”.
Plaid Cymru yn unig sydd â hanes o wrthwynebu Llafur a’r Ceidwadwyr, meddai, gan barhau i roi buddiannau cymunedau gwledig wrth wraidd llunio polisïau yng Nghymru ac yn San Steffan.
“Dywedodd y Ceidwadwyr na fyddai Cymru yn cael ceiniog yn llai ar ôl Brexit, ond mae cymunedau gwledig o leiaf £234m,” meddai.
“Mae cytundebau masnach ôl Brexit wedi caniatáu i fwy o fewnforion rhad danseilio ein marchnadoedd domestig.
“Mae Bargen Masnach Rydd Seland Newydd yn bygwth ffermio a diogelwch bwyd Cymru.”
Dywed na fydd cymunedau gwledig yn cael gwell gwasanaeth gan Lywodraeth Lafur, ac nad oes ymrwymiad i roi’r cyllid sy’n ddyledus i Gymru ac i roi’r pwerau dros wario arian newydd yr Undeb Ewropeaidd yn ôl i ddwylo cymunedau Cymru.
“Os caf fy ethol yn Aelod Seneddol, byddaf yn falch o sefyll yn y senedd bob dydd dros Gymru wledig,” meddai.
“Mae angen i ni ethol grŵp cryf o aelodau seneddol Plaid Cymru ar Orffennaf 4 i godi llais dros y Gymru wledig yn San Steffan, i sicrhau bod lleisiau ffermwyr Cymru yn cael eu clywed.”