Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw am roi hwb i blismona rheng flaen, ar ôl i ystadegau ddatgelu bod 9,231 o achosion o ddwyn ceir heb eu datrys yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd ers yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Mae ystadegau’r Swyddfa Gartref wedi cael eu datgelu gan y blaid, sy’n dweud bod 65% o achosion o ddwyn ceir gafodd eu cofnodi rhwng 2020 a 2023 wedi cael eu cau heb fod neb dan amheuaeth.
Dim ond 7% o achosion arweiniodd at gyhuddo neu roi gwŷs i rywun.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae nifer yr achosion heb eu datrys wedi codi 29%, o 2,100 yn 2020 i 2,713.
Beth ddylid ei wneud?
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw am ddiddymu swyddi’r Comisiynwyr Heddlu a defnyddio’r arian sy’n cael ei arbed ar gyfer plismona rheng flaen.
Yn ôl y blaid, gallai hynny greu oddeutu £170m dros gyfnod y senedd nesaf yn San Steffan.
Dywed Jane Dodds, arweinydd y blaid, fod angen cyfeirio mwy o arian i ffwrdd o’r swyddi biwrocrataidd, gan sicrhau mwy o arian i’r heddlu gael ymchwilio i droseddau a’u datrys.
Yn ardal Heddlu’r De mae’r ffigurau ar eu gwaethaf, gyda 7,905 o achosion (71%) o ddwyn ceir heb eu datrys yn ystod y cyfnod dan sylw.
‘Epidemig’
“Rydan ni’n gweld epidemig o ran dwyn ceir ar ôl blynyddoedd o anhrefn a methiannau Ysgrifenyddion Cartref sydd wedi anrheithio plismona rheng flaen,” meddai Jane Dodds.
“Mae pobol eisiau gwybod, pe bai eu ceir yn cael eu dwyn, y bydd yr heddlu’n dal y sawl sy’n gyfrifol.
“Ond yn hytrach, mae’r Ceidwadwyr wedi methu’n lân â mynd i’r afael â throseddau ac yn gadael i droseddwyr fynd heb eu cosbi.
“Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n diddymu’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ac, yn hytrach, yn buddsoddi’r arbedion mewn plismona rheng flaen, gan roi i swyddogion yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ddwyn troseddwyr i gyfrif.”