Mae Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio y gallai Llywodraeth Lafur Cymru gefnu ar Fil Addysg Gymraeg radical.

Maen nhw’n cyhuddo Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Addysg sy’n ddi-Gymraeg, o fod ag “agwedd llugoer” tuag at yr iaith ac o wrthod cyfarfod â nhw er gwaethaf sawl cais ers mis Ebrill pan ddaeth hi i’r swydd.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyflwyno’r Bil Addysg Gymraeg dros yr wythnosau nesaf, a hwnnw’n anelu at gynnydd sylweddol mewn addysg Gymraeg, yn dilyn ymateb ei rhagflaenydd Jeremy Miles i ymgynghoriad cyhoeddus ar Bapur Gwyn y bil ar Chwefror 21.

Blaenoriaethau addysg

Yn ei datganiad cyntaf ers dod yn Ysgrifennydd Addysg Cymru, oedd yn ddatganiad 1,200 o eiriau oedd wedi para wyth munud, dim ond un frawddeg oedd yn cyfeirio at y Gymraeg.

Dim ond cyfrifoldebau awdurdodau lleol roedd Lynne Neagle wedi cyfeirio atyn nhw wrth ateb cwestiwn gan Llŷr Gruffydd yn y Senedd am gynlluniau’r Llywodraeth i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg.

Yn ôl Toni Schiavone, cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, “mae gan y Llywodraeth gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid ein cyfundrefn addysg a rhoi’r Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru gyda’r Ddeddf Addysg Gymraeg”.

“Mae hi’n chwithig ofnadwy, felly, nad yw’r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, fyddai â chyfrifoldeb dros weithredu’r Bil, yn dangos unrhyw frwdfrydedd drosto na hyn yn oed ymwybyddiaeth ohono,” meddai.

“Yn ehangach, mae hi’n annerbyniol nad yw hi’n dweud mwy nag un frawddeg tocenistaidd a chyffredinol am y Gymraeg mewn datganiad ar ei ‘blaenoriaethau’ ar gyfer addysg.

“Yr unig gasgliad posib yw nad yw’r Gymraeg yn flaenoriaeth iddi.”

‘Llugoer’

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi cyfeirio at amharodrwydd Lynne Neagle i gyfarfod â nhw fel rheswm i bryderu dros ddyfodol y Bil.

“Anfonon ni ein cais gwreiddiol am gyfarfod gyda’r Ysgrifennydd ar Ebrill 12 eleni, ac er ein bod wedi anfon sawl cais arall ers hynny, dydyn ni ddim wedi clywed yr un gair ganddi,” medai wedyn.

“Gydag agwedd mor llugoer tuag at yr iaith mewn datganiadau ar lawr y Senedd, a diffyg parodrwydd i gyfarfod â ni, mae lle i bryderu y bydd Llywodraeth Cymru yn troi ei chefn ar Fil Addysg Gymraeg radical, fel mae wedi gwneud eisoes gyda chonglfeini radical eraill o’i gweledigaeth mewn ymgais i blesio Plaid Lafur Llundeinig Keir Starmer, ar draul pobol Cymru.”

Ymateb

“Ymhell o gael ei esgeuluso, bydd y Bil Iaith ac Addysg Gymraeg yn cael ei gyflwyno, yn ôl y cynllun, cyn gwyliau’r haf,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n rheolaidd ac yn helaeth â Chymdeithas yr Iaith, ar y Bil hwn ac ar faterion eraill yn ymwneud â’r Gymraeg.

“Mae addysg Gymraeg a darparu’r Gymraeg mewn addysg yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, ac yn gonglfaen ein targed uchelgeisiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”