Cyfarwyddwr BT Cymru, Alwen Williams wedi croesawu'r cyhoeddiad
Mae BT wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu creu 60 prentisiaeth newydd yng Nghymru, mewn meysydd gan gynnwys diogelwch y we a datblygu meddalwedd.

Dywedodd y cwmni bod y prentisiaethau, sydd ymhlith 1,400 yng ngwledydd Prydain, yn rhan o’u hymdrech i hyfforddi staff a fyddai â sgiliau digidol defnyddiol ar gyfer y dyfodol.

Mae disgwyl i’r prentisiaid yng Nghymru gael eu recriwtio yn ardaloedd Abertawe, Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Casnewydd, Hwlffordd, Machynlleth a Wrecsam.

Bydd lleoliadau ar gyfer graddedigion hefyd yn cael eu creu yng Nghaerdydd.

‘Hanfodol i Gymru’

Dywedodd BT y byddai’r prentisiaethau yn cael eu creu mewn sawl rhan o’u busnes, gan gynnwys gyda rhwydwaith ffonau symudol EE a’r busnes rhwydwaith leol Openreach.

Cafodd y cyhoeddiad am y swyddi newydd ei groesawu gan gyfarwyddwr rhanbarthol BT Cymru, Alwen Williams.

“Mae’r prentisiaethau a swyddi graddedigion yma’n cynnig cyfleoedd gwych i bobol yng Nghymru fod yn rhan o un o’r diwydiannau mwyaf cyffrous ac sy’n datblygu fwyaf sydyn, gydag un o’r cwmnïau mwyaf ym Mhrydain,” meddai.

“Fe fydd y recriwtiaid newydd yn chwarae rôl bwysig wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol a helpu busnesau a chartrefi’r rhanbarth i wneud y mwyaf o dechnoleg sydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni’n byw.

“Mae gyrfaoedd o safon uchel fel rhain yn hanfodol i lwyddiant a ffyniant Cymru yn y dyfodol.”