Bydd cronfa newydd, gwerth £136 miliwn, yn mynd ati i helpu busnesau bychain a chanolig Cymru ac ysgogi twf yn economi’r wlad, yn ôl Llywodraeth Cymru sy’n lansio’r fenter heddiw.

Bydd Cronfa Fusnes Cymru, sy’n cael ei sefydlu dan law Cyllid Cymru, ar gael tan 2022, ac yn darparu cyllid ar ffurf benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £2 miliwn.

Bwriad y fenter yw rhoi cyllid i fusnesau bychain a chanolig na fyddai fel arall yn gallu cael yr holl gyllid sydd ei hangen arnyn nhw i ddatblygu eu cwmnïau.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd y gronfa newydd yn helpu hyd at 400 o fusnesau ac yn creu tua £75 miliwn o fuddsoddiadau yn y sector preifat.

Daw’r gronfa, a fydd hefyd yn cydweithio â banciau a buddsoddwyr y sector preifat i ysgogi buddsoddiadau, yn lle’r cynllun presennol, sef JEREMIE Cymru.

Bydd £106 miliwn yn dod gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Ewropeaidd, tra bydd y gweddill yn dod o gyllid etifeddol JEREMIE Cymru.

Llywodraeth ‘o blaid busnes’

Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyhoeddi’r cynllun ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, wrth ymweld â chwmni cynnyrch llawfeddygol, Alesi Surgical, yng Nghaerdydd heddiw.

“Busnesau bychain a chanolig yw asgwrn cefn ein heconomi ac maen nhw’n chwarae rôl hanfodol o ran creu swyddi, cynyddu cynhyrchiant ac ysgogi twf trwy Gymru,” meddai, gan ddweud bod ei lywodraeth “o blaid busnes.”

Dywedodd Gareth Bullock, Cadeirydd Cyllid Cymru, y bydd y gronfa “yn effeithio’n fawr ar Gymru ac ar economi Cymru am flynyddoedd i ddod.”

“Bydd Cronfa Fusnes Cymru yn ategu’r cyllid arall sydd ar gael ar hyn o bryd gan Cyllid Cymru ac yn rhoi amrywiaeth eang o opsiynau cyllido twf cynhwysfawr i fusnesau bach a chanolig Cymru.”