Mae cwsmeriaid Arriva Cymru ymhlith y teithwyr trenau lleiaf bodlon yng ngwledydd Prydain, yn ôl arolwg gan gwmni Which?

O blith y rhai a gafodd eu holi, dim ond 49% oedd yn fodlon ar y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y cwmni, sy’n eu gosod yn bedwerydd o waelod y rhestr.

Dim ond Southeastern, Thameslink a Great Northern (46%), Abellio Greater Anglia (47%) a Southern (48%) oedd islaw Arriva Cymru ar y rhestr.

Ymhlith y cwynion oedd fwyaf cyffredin ymhlith bron i 7,000 o deithwyr ym mhob ardal roedd trenau gorlawn, gwerth isel am arian a threnau brwnt.

Grand Central sydd ar frig y rhestr (79%), gan ennill pum seren wrth roi ystyriaeth i seddau, prydlondeb, glendid, dibynadwyedd a gwerth am arian.

Ond yr hyn fydd yn destun pryder i nifer o’r cwmnïau yw fod bron i draean o deithwyr wedi nodi eu bod nhw wedi wynebu oedi ar eu taith ddiwethaf.

‘Cwsmeriaid yn haeddu a disgwyl gwell’

Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd Prif Gyfarwyddwr Which?, Richard Lloyd nad yw cwsmeriaid yn derbyn y gwasanaeth y maen nhw’n ei haeddu ac yn disgwyl.

“Boed yn gyfleusterau brwnt ar y trên, gorlifo neu oedi wrth aros am drên, mae’n amlwg fod rhaid i weithredwyr wella’u perfformiad.

“Rhaid i weithredwyr rheilffyrdd wneud llawer iawn mwy i drin eu cwsmeriaid yn deg, gan ddarparu gwell wybodaeth a mynediad i iawndal pan fo teithwyr yn wynebu oedi.”