Logo tim achub mynydd Llanberis (o wefan y tim)
Mae aelod o dîm Achub Mynydd yn dweud bod pryder ynglŷn â newidiadau i’r ffordd y bydd galwadau i hofrenyddion achub yn cael eu trin.

Bydd cyfrifoldeb dros y galwadau yn symud o ddwylo’r awyrlu yn Kinross, yr Alban, i Wylwyr y Glannau i lawr yn Fareham ger Portsmouth yn ne Lloegr.

Ond mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid hyfforddi’r staff newydd ar sut i ddelio â galwadau a gwneud penderfyniadau ynglŷn â defnyddio hofrenyddion ym mynyddoedd Eryri neu Fannau Brycheiniog.

Mae Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi pwysleisio bod trafodaethau’n cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod yr un lefel o wasanaeth yn cael ei ddarparu o dan y drefn newydd a fod ofnau ynghylch torri’r cysylltiad gyda gweithwyr profiadol yr RAF.

‘Mae’n mynd i ddigwydd’

Ar hyn o bryd y ganolfan yn Kinross sydd yn cydlynu pob defnydd o hofrenyddion achub, ac mae disgwyl i staff yno hyfforddi’r swyddogion o Wylwyr y Glannau fydd yn gyfrifol am y gwasanaeth o hyn ymlaen.

Dywedodd Elfyn Jones, sydd yn aelod o Gyngor Mynydda Prydeinig yn ogystal â bod yn aelod o dîm Achub Mynydd Llanberis, mai’r timau achub yn hytrach na’r cyhoedd fyddai’n debygol o deimlo effaith unrhyw newidiadau.

“Yn amlwg mae pob peth newydd yn codi pryderon, ond mi fuaswn i’n obeithiol iawn bod y gwasanaeth newydd yn gweithio’n ddidrafferth,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n mynd i ddigwydd, felly mae’n rhaid i ni jyst weithio efo’r gwasanaeth newydd ac os oes problemau mae’n rhaid i ni weithio drwyddyn nhw.”

Hyfforddiant

Yr wythnos ddiwetha’ fe ddywedodd Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Gareth Pritchard, fod newid cynharach pan gafodd y gwasanaeth hofrenyddion ei hun ei breifateiddio wedi golygu cyfnod dwys o hyfforddiant i gwmni preifat Bristow.

“Nhw sydd yn mynd i roi’r gorchymyn bod yr helicopter yn cael ei yrru, ac ydan ni eisio gwneud yn siŵr bod y criteria maen nhw’n asesu hynna yn gywir a bod y gefnogaeth dal yn mynd i fod mor dda ag y mae wedi bod gan yr RAF.”