Mae ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw, yn dweud fod 12,000 yn llai o bobol yn ddi-waith yng Nghymru yn ystod tri mis olaf 2015. Roedd cyfanswm o 80,000 heb waith yn ystod y cyfnod hwn, sef 5.3% o’r boblogaeth.

Ar y cyfan, mae’r ffigyrau rhanbarthol ar gyfer gwledydd Prydain yn dangos gostyngiad hefyd – ar wahân i Ogledd Iwerddon, lle’r oedd y cyfanswm wedi aros yr un fath ar 51,000 (5.8% o’r boblogaeth) a dwy ardal o ddwyrain Lloegr. Mae’r ffigwr ar gyfer Swydd Efrog a Humber wedi cynyddu o 8,000 i 165,000 yn ddi-waith (6.1% o’r boblogaeth) ac fe fu cynnydd o 2,000 yn y nifer di-waith yn yr East Midlands i 106,000 (4.5% o’r boblogaeth).

Y rhanbarth a brofodd y gostyngiad mwya’ oedd Gogledd-Orllewin Lloegr, gyda 19,000 yn llai yn ddi-waith rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd (174,000 o bobol, 4.9% o’r boblogaeth). Fe fu gostyngiad o 12,000 yng nghyfanswm y West Midlands gan ddod â nifer y di-waith i lawr i 145,000 (5.2% o’r boblogaeth).

Fe fu cwymp o 8,000 yn nifer y di-waith yn Nwyrain Lloegr, gyda’r ffigwr bellach yn 124,000 (3.9% o’r boblogaeth), a chwymp o 7,000 yn nifer y bobol ddi-waith y De-Orllewin, sydd bellach â 103,000 heb swydd (3.7%).

Yn ôl y ffigyrau diweddar, mae 294,000 o bobol ddi-waith yn Llundain, ac mae’r cyfanswm hwnnw 3,000 i lawr o gymharu â thrydydd chwarter 2015 (6.3% o’r boblogaeth).  Yn y De-Ddwyrain yn gyffredinol, mae cyfanswm y di-waith yn 179,000, i lawr 1,000, ac yn 3.9% o’r boblogaeth.

Mae canran y diwaith yn y boblogaeth ar ei uchaf yn y Gogledd-Ddwyrain, gyda’r ffigyrau diweddara’n dangos fod 107,000 heb swydd, i lawr 2,000, ond yn 8.1% o’r boblogaeth.

Yn yr Alban, mae nifer y di-waith i lawr 5,000. Mae 162,000 o bobol yno heb swydd, sy’n 5.8% o’r boblogaeth.