Ben Nevis, mewn tywydd teg
Mae’r tywydd gwael wedi amharu eto ar y gwaith o chwilio am ddau ddringwr profiadol sydd ar goll ar fynydd Ben Nevis yn yr Alban.

Fe gafodd yr ymdrech i ddod o hyd i Rachel Slater, 24, a Tim Newton, 27, ei hatal oherwydd y tywydd garw.

Fe aeth y pâr o Bradford, Sir Gorllewin Efrog, i ddringo dros y penwythnos, ond mi fethon nhw â dychwelyd ddydd Llun.

Roedd Tîm Achub Mynydd Lochaber yn bwriadu ail-afael yn y gwaith chwilio ben bore heddiw, ond mae eira trwm, niwl a gwyntoedd cryfion wedi amharu ar y cynlluniau.

Fe gafodd dau aelod o’r tîm achub eu dal mewn cwymp eira wrth chwilio ddydd Mawrth, ond fe ddaethon nhw allan ohono’n ddiogel.