Mae “cynllun dadleuol” gan ddatblygwyr i greu llety gwyliau mewn hen gapel ar Ynys Môn wedi cael ei wrthod.

Roedd cynghorwyr yr ynys wedi honni bod ardaloedd Llangoed, Biwmares a Llanddona eisoes wedi’u “gorlethu” gan lety gwyliau, gan gynnwys llety AirBnB.

Roedden nhw hefyd wedi beirniadu trefniadau parcio arfaethedig ar y briffordd mewn pentref prysur fel rhai “gwarthus”.

Cafodd y cynnig i droi Capel Jerusalem yn dair fflat, gydag estyniadau ac addasiadau yng nghanol Llangoed, ei wrthod gan gynllunwyr yr wythnos hon.

Daeth hynny yn dilyn gwrthwynebiadau ynghylch materion traffig a pharcio, a phryderon ynghylch crynodiad llety gwyliau’r ardal.

Cafodd y materion eu codi gan y Cynghorwyr Carwyn Jones, Alun Roberts a Gary Pritchard, sef aelodau ward Seiriol.

Cais blaenorol

Cafodd cynllun blaenorol i droi’r capel yn bedair fflat wyliau ei wrthod fis Tachwedd 2022.

Cafodd y cais ei gyflwyno i Gyngor Ynys Môn gan Baby Bird Development Ltd o Fanceinion, sy’n cael ei redeg gan Loretta ac Anthony Hodari.

Wrth ailgyflwyno’r cais, roedd y datblygwyr wedi gostwng nifer yr unedau gwyliau i dair.

Nododd Stephen Owen, y rheolwr gorfodi cynllunio, fod cynllun busnes wedi dangos cynnig “dichonadwy” ac y byddai’n dod â’r adeilad o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl i ddefnydd.

Nododd fod nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau hunanarlwyo yn ardal Cyngor Cymuned Llangoed yn 15.36% yn unig – “ychydig” dros y trothwy o 15%.

Roedd yr adran briffyrdd wedi cadarnhau bod y cynlluniau parcio gafodd eu cyflwyno mewn tri pharth ar y briffordd yn “dderbyniol”.

Cafodd y cais ei ystyried yn un “derbyniol”, ac fe wnaeth e argymell ei gymeradwyo â rhai amodau.

‘Cynsail peryglus iawn’

Ond fe wnaeth cynghorwyr wrthwynebu’r cais yn chwyrn, gan ddadlau bod rhoi sêl bendith i ragor o lety gwyliau dros y trothwy’n “gosod cynsail peryglus” ac yn agor y llifddorau i ragor o geisiadau.

Roedd y Cyngor Cymuned wedi bod yn erbyn y cais, ac roedd y datblygiad wedi denu 82 o wrthwynebiadau, ac un llythyr o gefnogaeth.

Ymhlith y problemau gafodd eu codi roedd parcio annigonol, ffordd beryglus, troad cudd, effaith ar gymdogion, sŵn, tarfu cyffredinol, diffyg lle ym maes parcio’r pentref, gormod o lety gwyliau, a lleoliad anaddas ar gyfer llety gwyliau.

Roedd yr unig lais cefnogol yn teimlo bod “rhaid gwneud rhywbeth â’r adeilad”.

Mewn llythyr, dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts fod y cais wedi bod yn “ddadleuol” ac wedi denu llawer o wrthwynebiadau.

“Bydd unrhyw un sy’n byw neu’n gyrru drwy’r pentref yn ymwybodol o ddiffyg parcio,” meddai.

“Mae gyrru ar hyd y stryd hon yn hunllef ar brydiau, yn enwedig efo cerbydau mwy o faint, bydd yn gwneud pethau’n waeth.”

Dydy’r defnydd arfaethedig o barcio ar y ffordd “ddim yn realistig” nac yn “ystyried hawliau trigolion lleol sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd parcio”.

“Hefyd, mae nifer y llety gwyliau yn yr ardal dros y trothwy o 15% – 15.36% yn Llangoed – ac os ydych chi’n rhoi sêl bendith i hyn heddiw, bydd yn codi,” meddai.

“Rhaid i ni ddal ati, neu mi allen ni fod yn gosod cynsail peryglus iawn.”

‘Hollol anaddas’

Mewn llythyr, nododd y Cynghorydd Gary Pritchard fod y datblygiad yn “hollol anaddas” ac y byddai’n “ychwanegu at y problemau parcio a thraffig”.

“Mae’r safle gyferbyn â’r unig siop yn y pentref, sy’n eithriadol o brysur; does dim llefydd parcio addas eraill…” meddai.

Mae’n teimlo nad oedd yr asesiad parcio’n “adlewyrchu realiti’r sefyllfa”, ac roedd yn gofidio hefyd am dorri’r trothwy o 15%.

“Mae hon yn ardal breswyl, nid yn ryw ardal dwristaidd.

“Mae pobol yn byw yma, ar ddwy ochr y capel.

“Mae yna or-ddarpariaeth, 15.36% yw’r ffigwr swyddogol, a dydy hynny ddim yn cynnwys AirBnB; pe bai hynny’n cael ei gynnwys, byddai’n golygu bod bron i chwarter yr eiddo’n llety gwyliau, mewn gwirionedd.

“Does dim angen rhagor o lety gwyliau arnom; mae Llangoed a Phenmon yn ardaloedd preswyl, nid yn ryw bentref gwyliau.

“Beth fydd yn digwydd yn yr haf pan fydd poblogaeth Ynys Môn yn codi dros chwarter miliwn y dydd?

“Does dim gobaith; bydd gennym ni jet-skis enfawr, pobol ar eu gwyliau sydd ddim jest yn glanio efo un car; rydyn ni’n eu gweld nhw ym Miwmares ac ym mhob man, ac mae ganddyn nhw ddau gar.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones nad oes digon o lefydd parcio yn y pentref i gynnal y datblygiad newydd.

“Roedd yn beryglus yn ystod yr ymweliad â’r safle,” meddai.

“Bu bron i gar redeg dros droed rhywun.

“Roedd yn ddi-drefn… yn hollol anaddas yng nghanol Llangoed.”

Roedd y Cynghorydd Jackie Lewis hefyd yn teimlo bod parcio yno’n “erchyll am 11yb”.

Dywedodd y Cynghorydd Jeff Evans ei fod yn “gais sydd rhwng y diafol a dyfnder glas y môr”.

“Os ydyn ni’n ei wrthod, rydym yn cael ein gadael â hen adeilad gwag hyll, na fyddwn i ei eisiau o flaen fy nhŷ na chwaith gyferbyn ag o,” meddai.

“Neu ydyn ni’n dewis cefnogi tair uned wyliau… sydd hefyd yn dod â phroblemau?

“Byddwn i’n dewis yr olaf ohonyn nhw.

“Byddai’n well gen i pe bai’r adeilad yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na mynd yn wag…”

Fe wnaeth e gynnig cymeradwyo’r cais, ond wnaeth neb ei eilio.

‘Mae angen i ni stopio hyn’

“Wrth chwilio’n gyflym ar fy ffôn i’r dwyrain yn Llangoed, Penmon ac i fyny i Landdona, mae yna 102 o unedau AirBnB yn cael eu hysbysebu rhwng Medi 23 a 27,” meddai’r Cynghorydd Robin Williams.

“Mae gwir ffigwr llety gwyliau ardal Seiriol 25% yn uwch, fwy na thebyg.

“Rydyn ni wedi’n gorlethu ag unedau gwyliau; mae angen i ni stopio hyn.”

Cynigiodd e wrthod y cais.

Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd John Ifan Jones.

Pleidleisiodd y pwyllgor dros wrthod y cais.