Mae Neil McEvoy yn dweud ei fod e am sefyll i fod yn Aelod Seneddol nesaf Gorllewin Caerdydd.

Bydd yn cynrychioli ei blaid, Propel, wrth geisio sedd yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Dywed y cyn-Aelod o’r Senedd mai fe yw’r “llais lleol dros faterion lleol” yn y ras yn yr etholaeth.

“Cefais fy ngeni yng Ngorllewin Caerdydd, cefais fy magu ar stad y Tyllgoed yng Ngorllewin Caerdydd, es i’r ysgol yng Ngorllewin Caerdydd, rwy’n byw yng Ngorllewin Caerdydd ac rwy’n magu fy nheulu yng Ngorllewin Caerdydd,” meddai.

“Fi yw’r unig ymgeisydd ar y papur pleidleisio a all ddweud hyn.

“Fi yw’r pencampwr lleol cryf, annibynnol sydd ei angen ar Orllewin Caerdydd.

“Llais lleol dros faterion lleol.”

‘Herio’r drefn’

Dywed Neil McEvoy ei fod yn clywed ar stepen y drws gan bobol sy’n teimlo bod y pleidiau gwleidyddol “i gyd yr un fath”.

Ond mae’n pwysleisio bod gan etholwyr “ddewis” yng Ngorllewin Caerdydd.

“Mae gennych gyfle i bleidleisio dros ymgeisydd sydd â hanes balch o dros 25 mlynedd o wasanaeth cyhoeddus, eiriolwr profiadol, annibynnol ei feddwl nad yw’n ofni siarad yn ddiflewyn ar dafod, a fydd yn herio anghyfiawnder, yn codi llais yn erbyn llygredd, ac yn cynrychioli ein cymuned hyd eithaf fy nghallu,” meddai.

Dywed mai pwrpas plaid Propel yw “herio’r drefn dan reolaeth pleidiau’r sefydliad” a “chynnig dewis gwleidyddol go iawn”.

“Fel y gwyddom, nid oes gwrthwynebiad cadarn i’r prif bleidiau gwleidyddol ar hyn o bryd. Rhaid inni greu’r wrthblaid honno,” meddai wedyn.

Pwy yw Neil McEvoy?

Ychwanega Neil McEvoy fod ganddo, fel unigolyn, “hanes o wneud pethau’n wahanol, mewn gair a gweithred”.

“Roeddwn yn gyfrifol am rewi cyflogau cynghorwyr rhwng 2008-11 a phenderfynais hawlio hanner fy lwfans yn unig tra’n Ddirprwy Arweinydd Caerdydd.

“Cyfrannais fy nghyflog fel cynghorydd i gefnogi prosiectau cymunedol tra’n Aelod o’r Senedd rhwng 2016-21. Faint o wleidyddion eraill all ddweud yr un fath?

“Cafodd Cyngor Caerdydd ei ailstrwythuro bryd hynny, gan gefnogi gwasanaethau rheng flaen drwy dorri cyflogau o dros £100,000 y flwyddyn.

“Mae gennyf hanes hir o herio anghyfiawnder. Gwneud safiad, nid dros yr hyn sy’n hawdd, ond dros yr hyn sy’n gyfiawn.

“Peidio â bod ofn sefyll ar fy mhen fy hun pan y gallwn fod yn rhan o’r dorf.

“Dyna beth mae Propel yn ei gynrychioli; gwneud yr hyn sy’n iawn er efallai nad hynny sydd hawsaf.

“Wna i ddim ildio: mae’n egwyddor sy’n rhan o fy ngwneuthuriad ac sy’n gyrru fy nghredoau personol a gwleidyddol.

“Nawr, yn fwy nag erioed, ni allwn ildio. Mae gormod yn y fantol.

“Yng nghanol yr holl gecru a’r dadlau rhwng y ddwy brif blaid, ni allwn anghofio am yr angen am lais lleol i’n cymuned.”

‘Cytundeb’

Wrth gyflwyno’i weledigaeth, dywed Neil McEvoy ei fod yn cynnig “cytundeb” i etholaeth Gorllewin Caerdydd.

Mae’n cynnig:

  • bod yn eiriolwr cryf dros amddiffyn ein hawliau a’n rhyddid dinesig: dylai fod gan bob gwlad yn y Deyrnas Unedig gyfansoddiad
  • democratiaeth uniongyrchol: hawl ein cymuned i ddweud ei dweud ar yr hyn sy’n digwydd yma; mae’n digwydd yn y Swistir, pam ddim yng Nghymru?
  • cefnogi sefydlu cwmni tai cyhoeddus i adeiladu tai sy’n wirioneddol fforddiadwy i alluogi pobol ifanc i brynu eu cartref cyntaf
  • cefnogi hawliau menywod ar sail rhyw ac amddiffyn plant rhag ideoleg rhywedd peryglus
  • bod yn llais i’r rhai sy’n dioddef o anafiadau brechlyn, sy’n cael eu hanwybyddu ac heb dderbyn iawndal

“Gallaf ddweud gyda balchder mai fi yw’r unig aelod etholedig sydd wedi ymgyrchu’n gyson yn erbyn dinistr amgylcheddol y Cynllun Datblygu lleol yng Ngorllewin Caerdydd,” meddai.

“Y bygythiad mwyaf a welodd ein cymunedau dros y 15 mlynedd diwethaf.

“Fe gofiwch pan gefais fy nghyhuddo o ddweud celwydd ac o godi bwganod pan ddywedais i fod Llafur yn mynd i adeiladu ar ein caeau gwyrdd?

“Arweiniais yr ymgyrch yn erbyn carthu mwd niwclear ger adweithydd niwclear yng Ngwlad yr Haf, i’w ryddhau yn nyfroedd Caerdydd, a hynny’n erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru.

“Mae’n anodd credu, bod mwd yn cynnwys plwtoniwm wedi ei wasgaru ar hyd ein harfordir; a bod cyn lleied o bobol yn gwybod sut y pleidleisiodd Llafur yng Nghymru i ganiatáu hynny yn 2018.

“Ymladdais yn erbyn deddfau Coronafeirws llym Llafur gafodd eu cefnogi gan yr holl bleidiau eraill, yn erbyn y cyfnodau clo niweidiol, yn enwedig i unigolion bregus, yr henoed a’n pobol ifanc.

“Yn anffodus, gwireddwyd fy narogan y byddai’r cyfnodau clo yn lladd mwy o bobol na Covid.

“Ynof fi, mae gennych chi ladmerydd a fydd yn sefyll yn gadarn dros ein cymunedau yn erbyn grym, trachwant, ac arian y corfforaethau mawr.

“Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Mae’n cymunedau wedi colli eu llais. Ac fel unigolion rydym yn colli ein rhyddid a’n hawliau.

“Agenda Net Zero, polisi 20m.y.a., symudiad i gymdeithas heb arian parod, ideoleg rhywedd, cymdogaethau 15 munud; mae’r bygythiadau i’n rhyddid yn niferus.

“Nid oes gennym bellach ryddid mynegiant llwyr, rhyddid y bu ein cyndeidiau yn barod i aberthu ei bywydau i’w amddiffyn 80 mlynedd yn ôl.

“Mae’n hen bryd grymuso pobol a dadrymuso gwleidyddion.

“Yma yng Ngorllewin Caerdydd, ceir microcosm o Gymru, ble mae rhai o gymunedau mwyaf cyfoethog ein gwlad o fewn tafliad carreg i rhai o’r tlotaf.

“Mae’r anghydraddoldeb yn syfrdanol.

“Os ydych chi’n dlotach, mae’n debygol y bydd hyd eich bywyd yn fyrrach, byddwch yn fwy tebygol o fyw mewn tai o safon is, o ddioddef mwy o broblemau iechyd, a chael eich plant wedi’u cymryd oddi arnoch.

“Po dlotaf ydych chi, y mwyaf y mae’r wladwriaeth yn debygol o reoli’ch bywyd. Ac nid er gwell.

“Defnyddiwch eich pleidlais i fynnu’r rheolaeth honno yn ôl.

“Mae’r drefn bresennol yn dibynnu ar bobol dosbarth gweithiol yn peidio â bwrw’u pleidlais.

“Mae cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu ar brosiectau ofer a diangen, tra mae’r hanfodion sylfaenol yn cael eu hesgeuluso.

“Mae’n hysgolion ar eu gliniau, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu argyfwng, a’r economi’n edwino.

“Mae sicrhau rhywbeth mor sylfaenol â chael meysydd chwarae cymunedol i’n plant yn faen tramgwydd.”

‘Dirywiad’

Mae ei ddatganiad yn mynd yn ei flaen i feirniadu 25 mlynedd o reolaeth Llafur yng Nghymru, sydd “wedi llywio dirywiad ein gwlad”.

“Maen nhw’n beio Llundain; maen nhw’n beio’r Torïaid glas,” meddai.

“Ar ôl Gorffennaf 4, ni fydd unrhyw esgusodion ar ôl.

“O’r fesen derwen a dyf: mae Propel wedi egino, rydyn ni’n tyfu ac fe fyddwn ni’n deffro pobol. Rwy’n addo hynny ichi.

“Mae gwleidyddiaeth bellach fel lleidr llechwraidd, yn lladrata ein hawliau, yn bygwth ein bodolaeth. Tra dylai fod yn gwella ein bywydau, ein cymunedau, a’n gwlad.

“Daeth yr amser i unioni hyn.

“Mae’n hen bryd dweud, ’digon’.

“Mae’n amser i’r mwyafrif distaw nad ydyn nhw’n pleidleisio i godi ar eu traed.

“Mae’r grym go iawn yn nwylo’r rhai sydd eto i’w ddefnyddio, i sylweddoli nad oes rhaid i bethau fod fel hyn.

“Rhaid inni wthio am newid gwirioneddol: ac fe lwyddwn i wneud hynny trwy ein gweithredoedd ein hunain; ein penderfyniad i bleidleisio ai peidio, ac i bwy i roi’r bleidlais honno.

“Dechreuwn wrth ein traed, gam wrth gam, ac ailadeiladwn ein cymunedau a’n gwlad.

“Mae newid yn dechrau gyda ni, chi a fi.

“Er mwyn newid Cymru, rhaid i ni ein hunain newid.

“Rwy’n ofni, os na wnawn unrhyw beth, os safwn yn segur o’r neilltu, y bydd y byd hwn sy’n wybyddus inni heddiw yn dra gwahanol i’n plant. Ni allaf wneud hynny â chydwybod glir.

“Rydw i wedi bod yn ymladd dros Orllewin Caerdydd ers dros bum mlynedd ar hugain.

“Etholwch y pencampwr lleol cryf sydd ei angen ar Orllewin Caerdydd.

“Ymunwch â’ch plaid chi, Propel, mudiad y bobol.”