Mae llinell Gymraeg HSBC wedi derbyn 17 ymholiad yn unig ers i’r banc newid y drefn o ateb galwadau.

Ers Ionawr 15, dim ond staff iaith Saesneg sydd wedi bod ar gael i ateb ymholiadau cwsmeriaid, ac mae’n rhaid i gwsmeriaid sydd eisiau ymateb yn Gymraeg aros am alwad yn ôl.

Yn ôl Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, roedd y llinell Gymraeg yn arfer derbyn 22 galwad y diwrnod ar gyfartaledd.

Mae’n galw am i Safonau’r Iaith Gymraeg gael eu hymestyn i gynnwys y sector bancio.

Mae HSBC wedi derbyn cryn feirniadaeth ers newid eu trefn, ond maen nhw wedi gwrthod newid y penderfyniad yn ôl.

‘Ddim yn gweithio’

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Llŷr Gruffydd ei bod hi’n “amlwg nad yw’r gyfundrefn newydd yna’n gweithio”.

“Rydych chi eisoes, y prynhawn yma, wedi sôn eich bod chi’n siomedig ynglŷn â phenderfyniad HSBC i ddod i ben â’u gwasanaeth llinell gymorth Gymraeg,” meddai wrth Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Nawr, ar y pryd, roedden nhw’n derbyn 22 galwad y dydd i’r llinell Gymraeg yna.

“Ers symud i fodel ble mae pobol yn cael gofyn am alwad yn ôl, maen nhw ond wedi derbyn 17 cais mewn cyfnod o dri mis.

“Felly, mae’n amlwg nad yw’r gyfundrefn newydd yna’n gweithio, ac mae’n amlwg nad yw’r sector bancio, ar y cyfan, yn cwrdd ag anghenion siaradwyr Cymraeg nac, yn wir, yn darparu gwasanaethau sylfaenol yn ein hiaith ni ein hunain.

“Rydych chi eisoes wedi dweud nad ydych chi’n hapus â hynny, ac rydych chi’n derbyn ei fod e’n annerbyniol.

“Y cwestiwn yw, felly: beth ydych chi’n ei wneud am y peth? Mi allech chi ddod â banciau o dan Safonau’r Iaith Gymraeg, felly pam na wnewch chi hynny?”

Yn ei ymateb, cadarnhaodd Jeremy Miles fod gan y Senedd y grym i “ymestyn ar gyfer rhai elfennau o’r sector preifat”, ond y “bydd angen diwygio pellach er mwyn ymestyn i gyffwrdd â’r oll rydyn ni wedi eu trafod heddiw”.

Cafodd gwleidyddion wybod am benderfyniad y banc i ddiddymu’r gwasanaeth iaith Gymraeg mewn llythyr ar Dachwedd 8, 2023.

Ar y pryd, ysgrifennodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd at y banc yn eu cyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg.

Ar y pryd, dywedodd Llŷr Gruffydd fod y penderfyniad yn “annerbyniol” ac yn “hynod o amharchus i siaradwyr Cymraeg”, a galwodd ar i HSBC “fuddsoddi” yn ddigonol yn y gwasanaeth am o leiaf deuddeng mis yn lle ei ddiddymu.