Mae’n annheg i blant gael eu dysgu mewn amodau “Dickensaidd” ac ni ellir disgwyl iddyn nhw ganolbwyntio a chyflawni eu potensial “dan y fath amgylchiadau,” yn ôl Plaid Cymru.

Dyna ddywedodd  arweinydd y blaid Leanne Wood wrth ymateb i honiadau bod adeiladau ysgolion Cymru mewn cyflwr “gwarthus”.

Roedd Plaid Cymru yn ymateb i sylwadau pennaeth Ysgol Uwchradd Dyffryn yng Nghasnewydd, Jon Wilson, sy’n dweud bod rhai o adeiladau ei ysgol yn “druenus” a’i fod wedi gofyn am gael eu hadnewyddu ers 13 blynedd.

Dywedodd Jon Wilson wrth BBC Cymru  nad yw cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru wedi gweithio i’w ysgol, a’i fod wedi cael ei gyflawni’n sâl ar draws y sir.

‘Dickensaidd’

 

Dywedodd Leanne Wood: “Nid yw hi’n iawn fod disgwyl i blant oddef y fath amodau Dickensaidd yn eu sefydliadau addysg.

“Mae toeon yn gollwng, ystafelloedd dosbarth rhy fach a ffenestri egwan yn creu amgylchedd gwaith annigonol sy’n siŵr o atal gallu disgyblion i ganolbwyntio a chyflawni eu potensial.

“Mae ein plant yn haeddu gwell na gorfod ymdopi gyda’r fath amodau anghyfforddus a gwrthgynhyrchiol.”

‘Methiant’

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n buddsoddi mwy na £1.4 biliwn mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru fel rhan o gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Ond yn ôl Plaid Cymru ei mae hi’n “gwbl glir” fod y cynllun wedi “methu’n llwyr.”

 

Fis diwethaf, cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd economi Plaid Cymru, gynlluniau ei blaid i sefydlu Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol Cymru i drawsnewid ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion ac ysbytai ledled Cymru.

“Os caiff llywodraeth Plaid Cymru ei hethol fis Mai, byddwn yn gweithredu ar unwaith i daclo’r broblem drwy ein Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar,” meddai Leanne Wood.