Janine Loddo
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddynes aeth ar goll o glwb nos yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Cafodd Janine Loddo, 36, ei gweld ddiwethaf yng nghlwb Popworld ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd, nos Wener.

Gadawodd Janine Loddo y clwb, oedd yn arfer bod yn glwb nos Flares, heb ei ffôn na’i chot sydd wedi cael eu rhoi i’r heddlu.

Dywedodd Adam Reed o Heddlu De Cymru bod ei theulu yn amlwg yn poeni amdani.

Meddai Adam Reed: “Mae’r teulu’n dweud ei fod yn groes i’w chymeriad iddi beidio â chysylltu, yn enwedig gyda’i hefaill Natalie, am gyfnod mor hir o amser.”

Mae Janine Loddo yn groen wyn, 5 troedfedd 8 modfedd o daldra, gyda gwallt coch, cyrliog hir a llygaid gwyrdd.

Yn wreiddiol o Lanisien, Caerdydd, mae gan Janine Loddo gysylltiadau yng Nghaerffili lle’r oedd wedi byw yn ddiweddar.

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 1600051901.