Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi chwe addewid i Gymru os fydd Llafur yn ennill etholiadau’r Cynulliad.
Gwnaeth y cyhoeddiad wrth ymweld â ffatri Airbus yng ngogledd Cymru heddiw ac meddai y bydd yr addewidion yn ffurfio rhan ganolog o gynnig polisi Llafur Cymru ar gyfer yr etholiad ym mis Mai.
Yn ôl y Blaid Lafur, mae’r addewidion wedi eu cynllunio i roi hwb i ffyniant a chyfle yng Nghymru.
Addewidion
Mae’r addewidion y cynnwys:
- Creu 100,000 o brentisiaethau newydd;
- Toriadau treth i fusnesau bach;
- £100 miliwn i wella safonau ysgolion;
- Cronfa triniaeth newydd ar gyfer afiechydon sy’n bygwth bywyd;
- Ehangu’r cynllun gofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio a;
- Dyblu’r terfyn cyfalaf ar gyfer y rhai sy’n mynd i ofal preswyl.
‘Hanner ffordd drwy’r daith’
Meddai Carwyn Jones: “Yn 2011, addewais ddegawd o gyflawni i bobl Cymru. Dywedais, er gwaethaf y toriadau i’n cyllideb, y byddem yn cyflawni’r addewidion a wnaethom i lywio’r wlad drwy gyfnod anodd.
“Rydym hanner ffordd drwy’r daith honno ac wedi darparu’r addewidion a wnaethom yn yr etholiad diwethaf.
“Heddiw, rwy’n nodi chwe addewid newydd. Addewidion Llafur Cymru i bobl Cymru.”
‘Degawd o siom’
Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig na fyddai’r addewidion yn gwneud llawer o wahaniaeth wedi dros ddegawd o siom.
Mae Andrew RT Davies hefyd wedi gofyn pam, ar ôl dwy flynedd ar bymtheg mewn grym, nad yw’r addewidion newydd wedi cael eu gwireddu yn gynt.
Meddai: “Ar wahân i’r ffaith fod Llafur, yn ddigywilydd, wedi copïo addewidion hir sefydlog y Ceidwadwyr ar ofal plant, trethi busnes a mynediad at driniaethau, nid oes llawer ar gael yma nad ellid wedi cael ei gyflwyno ar unrhyw adeg yn y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf.
“Tra bod Carwyn Jones yn sôn am ddegawd o gyflawni, nid yw pobl Cymru yn naïf. Yr unig beth mae Llafur wedi ei gyflwyno yw siom.
“O dan Lafur, mae Cymru yn dioddef y cyflog isaf yn y DU; mae gwariant ar wasanaethau iechyd rheng flaen wedi colli hyd at £1 biliwn ers 2011; ac er gwaethaf gwelliannau cymedrol mewn canlyniadau TGAU, maent yn parhau i fod yn waeth na’r rhai yn Lloegr.”