Mae astudiaeth gan academydd o Brifysgol Caeredin yn honni fod y gallu i siarad Cymraeg “yn dda i’r ymennydd.”

Yn ôl yr Athro Antonella Sorace, sylfaenydd Canolfan Bilingualism Matters Prifysgol Caeredin, dylai ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg, Gaeleg a Chernyweg gael eu gwarchod am fod ganddyn nhw fanteision cadarnhaol i iechyd.

Daw hyn wedi i’r Athro gynnal astudiaeth ar ddatblygiad pobol hŷn wrth iddyn nhw ddilyn cwrs dwys i ddysgu Gaeleg ar yr Ynys Hir yn yr Alban.

Fe ddaeth i’r canlyniad eu bod yn rhagori mewn profion meddwl ac arsylwi o gymharu ag unigolion hŷn nad oedd yn dilyn cyrsiau iaith.

Mae ymchwil blaenorol hefyd wedi dangos bod siarad mwy nag un iaith yn help i ddatblygu’r meddwl a’r gallu i ddysgu gan leihau dirywiad y meddwl wrth heneiddio.

‘Ffynhonnell nid problem’

Yng nghynhadledd Cymdeithas America i Hyrwyddo Gwyddoniaeth (AAAS) yn Washington DC, fe alwodd yr Athro ar wneuthurwyr polisi i sicrhau fod ieithoedd lleiafrifol yn cael eu gwarchod.

“Nid yw nifer o’r ieithoedd hyn yn cael eu gwerthfawrogi ac felly dyn nhw ddim yn cael eu cefnogi,” meddai mewn erthygl ym mhapur newydd The Scotsman.

“Mae pobol yn meddwl eu bod nhw’n dda i ddim, felly dy’n nhw ddim yn eu siarad nhw gyda’u plant, ac oherwydd hynny fe fydd nifer o’r ieithoedd yn marw’n hwyr neu’n hwyrach.”

Fe ddywedodd fod angen dod o hyd i ffyrdd i berswadio pobol i weld ieithoedd lleiafrifol fel “ffynhonnell yn hytrach na phroblem, llên gwerin neu rywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.”

Byddai hynny’n fodd i sicrhau bod yr ieithoedd yn goroesi gan gynnig manteision dwyieithrwydd i blant.

Mewnfudwyr

Fe ychwanegodd Antonella Sorace, sy’n siarad Eidaleg, Saesneg, Ffrangeg ac ychydig o Sbaeneg a Sardeg, bod pob math o ddwyieithrwydd yn bwysig.

Fe ddywedodd y dylid annog mewnfudwyr i gadw eu hiaith ar ôl symud i wlad arall, a bod angen eu cynorthwyo hefyd i ddysgu digon o’r brif iaith er mwyn cyfathrebu’n hwylus.