Mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’r heddlu rhywbryd yn ystod yr haf.
Mae Simon Prince wedi bod yn Prif Gwnstabl y llu ers tair blynedd a dywedodd bod ei amser wrth y llyw wedi bod yn “fraint aruthrol”.
Cafodd ei benodi gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Christopher Salmon, y cyntaf i gael ei benodi gan Gomisiynydd Heddlu yng Nghymru.
Dechreuodd Simon Prince ei yrfa gyda’r heddlu yn 1990 ac fe symudodd i Heddlu Dyfed Powys ar ôl magu profiad dros ei 22 mlynedd gyda Heddlu Gwent.
Meddai Simon Prince: “Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol i fod yn Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys.
“Yn Heddlu Dyfed-Powys, rydym yn ffodus o gael gweithlu sy’n ymgorffori hanfod yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn was cyhoeddus, ac rydyn ni’n dangos y lefelau uchaf iawn o broffesiynoldeb, anhunanoldeb, dewrder a thosturi.”
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Christopher Salmon: “Rwy’n ddiolchgar i Simon Prince am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth i’r cyhoedd yn ardal Dyfed-Powys ac yng Ngwent.
“Mae wedi bod yn gyfraniad meddylgar a chadarnhaol i blismona ar adeg pan mae angen cyfraniadau o’r fath fwyaf. Mae’n ddrwg gen i ei weld yn mynd, ond rwy’n deall ei benderfyniad. Dymunaf y gorau iddo ar gyfer ei gynlluniau yn y dyfodol. “