Fe fydd swyddogion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cyfarfod ddydd Iau i drafod adroddiad sy’n archwilio sefyllfa staffio ysbytai’r gogledd.

Fe fydd yr adroddiad hefyd yn datgelu’r nifer o nyrsys o dramor sydd wedi eu cyflogi gan y Bwrdd Iechyd mewn ymgais i fynd i’r afael â’r prinder staff yn lleol.

Yn ôl adroddiadau, mae mwy na 70 o nyrsys o Sbaen wedi eu recriwtio i’r gogledd ers 2014, a hynny mewn cyfweliadau dros y we.

Mae 10 nyrs o Sbaen wedi dechrau gweithio o fewn y Bwrdd Iechyd ers mis Ionawr eleni, oherwydd argyfwng staffio yn lleol. Mae disgwyl i 10 arall ddechrau’r mis hwn a rhagor yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn.

Ers mis Ionawr, mae mwy na hanner o’r nyrsys hynny wedi symud a dechrau gweithio yn ysbytai gogledd Cymru, ac mae disgwyl i fwy gyrraedd yn ystod y flwyddyn.

Mae disgwyl iddyn nhw weithio yn y tair prif ysbyty yn y gogledd – Ysbyty Gwynedd, Bangor; Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ac Ysbyty Maelor, Wrecsam.