Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion yn dilyn ymosodiad ar ddynes yng Nghaerdydd ar ôl iddi gytuno i brynu peiriant golchi a oedd wedi cael ei hysbysebu ar wefan Gumtree.

Roedd y ddau ddyn hefyd wedi cymryd arian gan y ddynes yn y digwyddiad yn Spinney Close, yn Nhrelái tua 2.15yp ddydd Sadwrn, 13 Chwefror.

Dywedodd y Prif Arolygydd Joe Jones bod y peiriant golchi mewn cyflwr gwael ac nad oedd yn gweithio a bod yr arian wedi cael ei gymryd gan y ddynes 39 oed cyn iddi gael cyfle i edrych ar yr eitem.

“Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu a oedd wedi sylwi ar fan wen yn ardal Trelái neu sydd wedi cael profiad tebyg i gysylltu â ni. Rwy’n annog unrhyw un sy’n ymateb i hysbysebion ar y we i wneud hynny’n ddiogel.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau  ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 150050956.