Mae’r ffilm The Revenant wedi ennill tair o brif wobrau’r Baftas eleni gan gynnwys tlws yr actor gorau i Leonardo DiCaprio.
Enillodd y ffilm y wobr am y ffilm orau a derbyniodd Alejandro Gonzalez Inarritu y tlws am y cyfarwyddwr gorau. Aeth y ffilm ymlaen i ennill Baftas am sinematograffi a sain yn ogystal.
Dywedodd Leonardo DiCaprio, 41, sy’n gobeithio ennill ei Oscar cyntaf yn ddiweddarach y mis hwn, bod ennill y wobr yn “sioc ac yn anrhydedd”.
Roedd wedi cael ei enwebu ochr yn ochr ag enillydd y llynedd Eddie Redmayne, a gafodd enwebiad am The Danish Girl, yn ogystal â Michael Fassbender, Matt Damon a Bryan Cranston.
Dywedodd cyfarwyddwr The Revenant, Alejandro Gonzalez Inarritu, a enillodd yr Oscar am y cyfarwyddwr gorau am Birdman yn 2015, fod ennill y Bafta yn “wir anrhydedd”.
Gwobrau eraill
Enillodd Brie Larson wobr yr actores orau am ei rôl yn y ddrama glawstroffobig The Room.
Enillodd Kate Winslet y wobr am yr actores gynorthwyol orau am ei pherfformiad yn y ffilm fywgraffyddol am Steve Jobs, cyd-sylfaenydd cwmni cyfrifadurol Apple.
Mark Rylance enillodd y wobr am yr actor cynorthwyol gorau am ei rôl fel ysbïwr Rwsiaidd yn Bridge Of Spies.
Brooklyn, y ddrama am fewnfudwr Gwyddelig i America enillodd wobr y ffilm Brydeinig ragorol, tra aeth Amy, y ffilm am y gantores Amy Winehouse, a’r tlws am y ffilm ddogfennol orau.
Mad Max: Fury Road enillodd y Baftas am olygu, colur a gwallt, dylunio gwisgoedd a dylunio cynhyrchu tra bod y wobr am y gerddoriaeth wreiddiol orau wedi mynd i Ennio Morricone am The Hateful Eight.
Y ffilm Star Wars ddiweddaraf enillodd y Bafta am yr effeithiau gweledol arbennig gorau.
Cyfraniad eithriadol cwmni gwisgoedd
Aeth y wobr am gyfraniad eithriadol i sinema Brydeinig i gwmni gwisgoedd sydd wedi darparu dillad ar gyfer rhai o’r ffilmiau mwyaf llwyddiannus yn hanes ffilm gan gynnwys Star Wars, Titanic a Lawrence Of Arabia.
Cafodd Angels Costumes ei sefydlu yn 1840 ac mae’r cwmni wedi gweithio gyda’r diwydiant ffilm am fwy na chanrif.
Cafodd y seremoni ei chyflwyno gan Stephen Fry a chafodd ei chynnal yn y Tŷ Opera yn Covent Garden yn Llundain.