Bydd record saith modfedd brin sy’n cynnwys cân gan y grŵp eiconig, Y Trwynau Coch, ynghyd â thri grŵp arall o ddiwedd y 1970au yn cael ei ail-gyhoeddi mewn Ffair Recordiau yn Aberystwyth wythnos i yfory.
Cafodd y record ei rhyddhau yn wreiddiol ar label Recordiau Coch ym 1979, a gan mai nifer cyfyngedig o gopïau gafodd eu cynhyrchu mae’n un digon prin i’r casglwyr.
Rai misoedd yn ôl fe gafodd canwr Y Trwynau Coch, Rhys Harris, hyd i focs yn llawn copïau o’r recordiau finyl, heb gloriau yn yr atig , ac aeth ati i holi’r casglwr recordiau, Toni Schiavone, beth ddylai wneud â hwy.
“Ro’n i â stondin mewn ffair recordiau yng Nghaernarfon, ac roedd yn dipyn o syndod gweld Rhys wrth y stondin gyda bocs yn llawn o’r recordiau prin yma,” meddai Toni Schiavone.
“Roedd rhyw 150 o gopïau, ond y drwg oedd bod dim cloriau iddyn nhw, dim ond y recordiau finyl. Ar ôl pendroni am ychydig, dyma benderfynu argraffu cloriau newydd, tebyg i’r rhai gwreiddiol a’u hail-ryddhau fel rhyw fath o reissue.
“Ro’n i yn y broses o drefnu ffair recordiau yn Aberystwyth ar benwythnos Gwobrau’r Selar, ac roedd hwn yn gyfle perffaith i ryddhau’r record yma o’r gorffennol.”
Ffair a sgwrs
Mae’r ffair recordiau ail-law yn cael ei chynnal yn Hen Goleg Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 20 Chwefror, sef yr un diwrnod ag y mae Gwobrau’r Selar yn y dref.
Fel rhan o’r digwyddiad bydd y cyflwynydd radio Richard Rees yn cynnal sgwrs gyda Rhys Harris am hanes Y Trwynau Coch, un o grwpiau Cymraeg mwyaf eiconig ac arwyddocaol eu cenhedlaeth.
“Mae’r record yn un ddifyr gyda chân gennym ni [Y Trwynau Coch] a thri band ifanc arall o’r cyfnod,” meddai Rhys Harries.
“Roedd Tanc a Crach yn ddau grŵp arall o ardal Abertawe, a Cyffro yn fois o Gaernarfon. Criw o fechgyn o Gwmtawe oedd Crach a nhw oedd grŵp cyntaf Huw Chiswell, ddaeth yn aelod o Y Trwynau Coch wedyn.
“Roedd Tanc yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ac un o’r aelodau oedd Siân Thomas sy’n fwy adnabyddus fel cyflwynwraig Heno erbyn hyn.”
Datblygu
Yn ogystal â’r sgwrs am Y Trwynau Coch, bydd Griff Lynch yn holi David R. Edwards o’r grŵp chwedlonol Datblygu ar y diwrnod.
Bydd y sgwrs yn trafod albwm newydd Datblygu, Porwr Trallod, yn ogystal â’r cyfraniad mawr mae’r grŵp wedi’i wneud i’r sin Gymraeg rydan ni’n ei adnabod heddiw.
Bydd y record ar ei newydd wedd ar gael i’w phrynu am y tro cyntaf y Ffair Recordiau yn Hen Goleg Aberystwyth rhwng 11.00yb a 4.00yp ar 20 Chwefror, a sgwrs Rhys Harris am Y Trwynau Coch am 1.30yp yn yr un man.