Mae’r Senedd wedi clywed y gallai cynigion i hawlio tomenni glo nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio agor y llifddorau i ragor o echdynnu yn enw adfer.

Arweiniodd Delyth Jewell ddadl Plaid Cymru ar domenni glo a glo brig, gan rybuddio bod diwydiant newydd ar droed, gydag hawlio tomenni yn ôl yn dod ar draul echdynnu glo.

Cododd Delyth Jewell, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, bryderon am gynigion Energy Recovery Investments Ltd i hawlio safle Bedwas yn ôl.

“Cyn i’r tir gael ei ddychwelyd i’w hen gyflwr gogoneddus, mae’n ymddangos bod yn rhaid ei ddifrodi a’i ysbeilio eto,” meddai dirprwy arweinydd Plaid Cymru.

Dywed fod rhai yn cadw at eu haddewidion, ond nad yw eraill yn gwneud hynny, “gan honni ar ddiwedd prosiectau nad oes digon o arian ar ôl ar gyfer adfer – mae’r cyfan wedi mynd ar dynnu pob ceiniog o elw allan”.

‘Trychineb’

Fe wnaeth Hefin David annog cyd-aelodau i gadw meddwl agored ynghylch cynlluniau ERI i adfer tomenni glo yn ardal Bedwas, sydd yn ei etholaeth yng Nghaerffili.

“Mae angen i ni gadw meddwl agored ynghylch unrhyw gyfle neu drywydd lle mae angen i ni adfer, ond ar yr un pryd rhaid i ni ofyn cwestiynau sgeptigol,” meddai.

“Nid Ffos-y-Frân mo hyn, ‘gadewch iddo fe fod yn barth trychineb ac ecsbloetio’r tir’.

“Dyma gwmni sy’n dweud, ‘Ie, fe wnawn ni echdynnu’r glo fel is-gynnyrch a gwneud elw, ond rydyn ni yno i adfer y tir’.”

Ychwanegodd ei lais at yr holl alwadau ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddarparu arian ychwanegol ar frys er mwyn gwneud gwelliannau hirdymor i domenni nad ydyn nhw bellach yn cael eu defnyddio.

‘Pryderus’

Cododd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru bryderon am y cynigion “blinderus” ar gyfer prosiect echdynnu glo yn ei ranbarth yn Nwyrain De Cymru.

Dywedodd fod ERI yn bwriadu echdynnu glo o safle glofa Bedwas dros gyfnod o saith mlynedd, gydag estyniad yn bosib.

“Mae goblygiadau posib y prosiect yn bellgyrhaeddiol ac yn bryderus, gyda nifer o gwestiynu heb eu hateb mewn modd boddhaol eto er mwyn lleddfu pryderon trigolion,” meddai wrth y Siambr.

Gan rybuddio y gallai osod cynsail peryglus, gyda mwy na 300 o domenni glo mewn perygl yn ne Cymru, dywedodd fod perygl i’r prosiect alluogi echdynnu glo yn enw adfer.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gofyn nifer o gwestiynau petrusgar i warchod rhag ymdrechion i adfer y diwydiant glo drwy’r drws cefn.”

‘Pryderon dwys’

Dywedodd Rhianon Passmore fod gan bobol yn ei hetholaeth yn Islwyn bryderon dwys am gynlluniau ERI ar gyfer yr hen domenni glo ym Mynydd y Grug yn ardal Bedwas.

Cododd hi bryderon etholwyr ynghylch deunaw i ugain o lorïau y dydd yn teithio i lawr ffordd gludo sy’n mynd drwy Parc Gwledig Cwm Sirhywi.

“Tra ein bod ni am weld tomenni glo yn cael eu symud a’u hadfer, ni all hynny ac ni ddylai fod ar unrhyw gyfrif,” meddai wrth dynnu sylw at y ffaith nad oes cais cynllunio wedi’i gyflwyno hyd yn hyn.

Dywed yr Aelod Llafur o’r Senedd fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £47m, ond nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyfrannu arian eto ar gyfer adferiad hirdymor tomenni glo sydd allan o ddefnydd.

Galwodd ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gamu i fyny a chymryd cyfrifoldeb.

‘Torcalon’

Dywedodd Sioned Williams fod mwy na 900 o domenni glo allan o ddefnydd yn ei rhanbarth, Gorllewin De Cymru, gan rybuddio bod y tirlun wedi’i greithio â pheryglon amgylcheddol sydd wedi cael eu gadael ar ôl.

Fe wnaeth Aelod Plaid Cymru o’r Senedd gyfeirio at enghraifft Godre’r-graig yng Nghwm Tawe.

“O ganlyniad i asesiad o berygl rwbel a baw’r chwarel i ysgol y pentref, bu’n rhaid i blant gael eu haddysg mewn cabanau filltiroedd i ffwrdd o’r pentref ers 2019,” meddai.

“Mae’r ysgol bellach wedi cael ei dymchwel, gan achosi torcalon llwyr yn y gymuned.”

Galwodd Heledd Fychan, sy’n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, am ddeddfwriaeth newydd i adlewyrchu realiti heddiw, gan dynnu sylw at y ffaith fod y Ddeddf Glofeydd a Chwareli’n dyddio’n ôl i 1969.

“Mae’n hollol warthus, yn fy marn i, nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi chwarae ei rhan wrth helpu i ariannu’r gwaith,” meddai’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

‘Realiti amgen’

Fe wnaeth Joel James, ar ran y Ceidwadwyr, wrthod “realiti amgen” Plaid Cymru sy’n darlunio Cymru fel dioddefwr ecsbloetio yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

“Y gwir yw fod ein hadnoddau cenedlaethol wedi cael eu defnyddio i helpu i’n cyfoethogi ni,” meddai.

Dadleuodd na ddylid disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dalu am waith adfer tra bo Llywodraeth Cymru’n cyflwyno deddfwriaeth arfaethedig ar gyfer tomenni sydd allan o ddefnydd.

Dywedodd Aelod Senedd Canol De Cymru fod gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau wrth law, gan feirniadu’r gost arfaethedig o £18m y flwyddyn o gael 36 yn rhagor o wleidyddion ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Joel James y dylai Cymru ymgysylltu ag ERI ar waith adfer.

‘Tu hwnt i grediniaeth’

Dywedodd Julie James, oedd yn methu gwneud sylw am y cynigion ar gyfer Bedwas, fod ei thad yn löwr fu farw o ganser, bron yn sicr oherwydd ei hanes o fod yn löwr.

“Dyna fydd y gwirionedd i nifer o deuluoedd ledled Cymru,” meddai.

“Mae dweud nad yw hynny’n ecsbloetio y tu hwnt i grediniaeth, a bod yn hollol onest.”

Fe wnaeth Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Chynllunio Cymru annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gydnabod eu cyfrifoldeb moesol i helpu i ariannu gwaith adfer, gan fod tomenni glo yn bodoli ymhell cyn datganoli.

Dywedodd Julie James y bydd bil sydd i ddod ar domenni glo, glofeydd a chwareli yn diwygio hen gyfreithiau ynghylch diogelwch tommeni ac yn rhoi mwy o sicrwydd i bobol sy’n byw yn eu cysgod.

Fe wnaeth Aelodau’r Senedd wrthod cynnig Plaid Cymru, o 12 pleidlais i 45, gyda gwelliannau’r Ceidwadwyr hefyd wedi methu.

Cafodd y cynnig, gafodd ei wella gan Lywodraeth Cymru, ei gytuno yn ei gyfanrwydd, o 41 pleidlais i 16.