Gallai mesurau cynllunio i reoli’r defnydd o eiddo fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr gael eu cyflwyno yng Ngwynedd yn fuan.

Dywed Cyngor Gwynedd eu bod nhw bellach wedi cyrraedd “cam pwysig” yn y broses o benderfynu a ddylid cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Mae hwn yn offeryn cynllunio sy’n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i ymateb i anghenion penodol eu hardaloedd.

Daw hyn wrth i “niferoedd sylweddol” o dai yng Ngwynedd gael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau.

Yn ôl y Cyngor, mae’n cael “effaith sylweddol” ar allu trigolion i ddod o hyd i gartrefi yn y sir, ac maen nhw am gael mwy o reolaeth dros y sefyllfa.

Adroddiad yn ystyried ymatebion ymgynghoriad

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor ar Fai 16, er mwyn ystyried ymatebion yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno’r pwerau, gafodd ei gynnal ym mis Awst a Medi 2023.

Gallai penderfyniad terfynol gael ei wneud gan Gabinet y Cyngor yn ddiweddarach eleni.

Mae’r ddeddfwriaeth yn galluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Cyngor Gwynedd i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn rheoli’r defnydd o dai, megis ail gartrefi a llety gwyliau.

“Mae’r nifer sylweddol o dai yng Ngwynedd sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn cael effaith sylweddol ar allu pobol yn y sir i gael mynediad i gartrefi yn eu cymunedau,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd.

“Cyflwynodd y Cyngor ymchwil fanwl i Lywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at yr angen i gymryd camau i gael gwell reolaeth ar y sefyllfa.

“Wrth ymateb, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cyfres o fesurau sy’n cynnwys gwelliannau i ddeddfwriaeth gynllunio sy’n galluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Cyngor Gwynedd i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai megis ail gartrefi a llety gwyliau.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb oedd wedi cynnig eu sylwadau yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd.

“Mae’r holl ymatebion wedi cael eu hystyried yn ofalus, a bydd y drafodaeth yn y Pwyllgor Craffu’n gyfle i aelodau edrych ar y gwaith hwn cyn bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar gyfer penderfyniad terfynol.”

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Yn ei hanfod, byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi’r Cyngor, fel awdurdod cynllunio Gwynedd, i fynnu bod perchnogion eiddo’n cael caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif dŷ yn ail gartref neu’n llety gwyliau tymor byr.

Fyddai’r newid ddim yn berthnasol i eiddo sydd eisoes yn ail gartrefi neu’n llety gwyliau tymor byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod i rym.

Bydd argymhellion sy’n deillio o drafodaethau Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd ar Fai 16 yn cael eu cynnig yn yr adroddiad i Gabinet y Cyngor naill ai ym mis Mehefin neu Orffennaf, ar gyfer penderfyniad terfynol ynghylch a fydd y Cyngor yn cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Pe bai’r Cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen, byddai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dod i rym o Fedi 1, ac yn weithredol yn ardal awdurdod cynllunio lleol Gwynedd yn unig – ond nid yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Ar hyn o bryd, mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Eryri.