Yr M4 - llun llyfrgell
Mae traffordd yr M4 wedi’i chau i gyfeiriad y dwyrain ger Abertawe yn dilyn damwain – gan greu anhrefn ar ffyrdd eraill yn yr ardal hefyd.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi anfon dau gerbyd i’r digwyddiad, ac mae cerbydau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd ar y safle.

Mae’n debyg mai un cerbyd oedd yn y ddamwain a’i fod wedi mynd ar dân; mae un person wedi cael ei gludo i Ysbyty Treforys.

Ar hyn o bryd mae traffig yn cael ei yrru ar ffyrdd eraill rhwng cyffordd 46 Llangyfelach a chyffordd 45 Ynysforgan.

Mae’n bosib y bydd y ffordd wedi’i chau am rai oriau eto, gan gynnwys cyfnod prysura’r bore.