Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael ei beirniadu am y ffordd mae hi’n ymdrin â’r cyhoedd.
Dywedodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) mewn adroddiad bod angen i’r heddlu wneud mwy i ddatblygu “diwylliant moesegol”.
Roedd Dyfed Powys yn un o bum ardal ym Mhrydain gafodd wybod ar ôl arolygon fod yn rhaid iddyn nhw wella’r ffordd roedden nhw’n delio ag unigolion a chymunedau.
“Yn dilyn ein harolwg, mae HMIC yn ystyried nad oedd Heddlu Dyfed Powys wedi gwneud digon i ddatblygu diwylliant moesegol, a chynnwys cod foeseg yn eu polisïau na’u gweithredoedd, na sicrhau nad oedd rhagfarn mewn achosion o gwynion neu gamymddwyn,” meddai’r arolygydd Wendy Williams.
‘Wedi cymryd camau’
Dywedodd yr arolygwyr fod yr heddlu wedi sgorio’n ‘dda’ ar eu defnydd o ynnau llonyddu, a stopio a chwilio.
Roedd y lluoedd heddlu yn ardaloedd eraill Cymru wedi sgorio’n ‘dda’ ar y cyfan, gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn sgorio’n uchel am y ffordd roedden nhw’n delio â’r cyhoedd.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys bod bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers yr arolwg, a’u bod eisoes wedi cymryd “camau positif iawn” tuag at wella’r hyn oedd yn cael ei grybwyll.
“Fe wnawn ni nawr fynd drwy’r adroddiad mewn manylder er mwyn sicrhau bod pob gweithred sydd yn deillio ohoni yn cael lle amlwg yn ein cynlluniau,” meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Liane James.