Fe fydd grŵp o Aelodau Seneddol yn holi Google ymhellach heddiw ynglŷn â’u cytundeb diweddar i dalu trethi ym Mhrydain.

Roedd y cwmni technoleg wedi cytuno i dalu £130m o drethi ychwanegol ar gyfer y ddegawd ddiwethaf, cam gafodd ei ddisgrifio fel “buddugoliaeth” gan y Canghellor George Osborne.

Ond mae eraill wedi beirniadu’r setliad, gan ddweud bod Google mwy neu lai wedi talu 3% yn unig o dreth dros y cyfnod, a galw ar y Swyddfa Archwilio Wladol a’r Comisiwn Ewropeaidd i ymchwilio.

Bydd cyfarfod Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin heddiw’n holi Matt Brittin, llywydd Google yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, yn ogystal ag is-lywydd Google Tom Hutchinson.

Cwrs am ddim

Mae’r blaid Lafur hefyd wedi galw am ragor o dryloywder ynglŷn â pherthynas y Llywodraeth â Google, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y cwmni wedi cynnal sesiwn hyfforddi digidol am ddim i staff Whitehall.

Yn ôl The Sun roedd y sesiwn wedi digwydd yn Llundain yr wythnos diwethaf er bod y ffrae am drethi’r cwmni yn dal i rygnu ymlaen.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet bod 18 aelod o staff o Wasanaeth Cyfathrebu’r Llywodraeth wedi bod ar seminar hanner diwrnod gyda Google.

“Doedd dim cost i’r trethdalwyr,” mynnodd y llefarydd.