Cheryl James (llun: PA)
Mae’r cwest i farwolaeth y milwr 18 oed o Langollen, Cheryl James, wedi clywed bod awyrgylch “rhywiol dros ben” yn bodoli ym marics Deepcut, a bod staff yn camddefnyddio’u grym.
Cyfaddefodd un o benaethiaid y fyddin, y Brigadydd John Donnelly, fod “awyrgylch moesol di-drefn” yn y barics adeg marwolaeth Cheryl James, a bod diffyg goruchwylio a gofal yn rhannol gyfrifol am greu’r fath awyrgylch.
Dywedodd Jane Worboys, oedd yn cael ei hyfforddi yn y barics ar yr un cyfnod, bod Cheryl James wedi dweud wrthi bod sarsiant wedi’i chloi hi yn ei swyddfa unwaith a cheisio cymryd mantais ohoni.
Mae’r Brigadydd eisoes wedi ymddiheuro wrth deulu’r milwr am yr anhrefn yn Deepcut.
Bu farw Cheryl James o ganlyniad i fwled i’w phen ym mis Tachwedd 1995.
‘Ystafell ryw’
Ar drydydd diwrnod y cwest i’w marwolaeth, clywodd llys crwner Woking fod ystafell wedi’i neilltuo’n answyddogol ar gyfer rhyw.
Ychydig cyn i Cheryl James gyrraedd Deepcut, roedd un o uwch-swyddogion y barics wedi cael ei ddiswyddo oherwydd ymddygiad amhriodol yn ymwneud â rhyw ac alcohol.
Dim ond dwy flynedd cyn i Cheryl James gyrraedd y barics y cafodd merched yr hawl i hyfforddi yno.
‘Dim strwythurau’
Wrth gael ei groesholi, dywedodd y Brigadydd Donnelly: “Yn sicr, roedd awyrgylch rhywiol yn Deepcut. Doedd gyda ni ddim strwythurau yn eu lle i ddarparu gofal digonol.
“Roedd agwedd ac iaith rhannau o’r fyddin yn cynrychioli safbwynt oedd yn sarhaus i ferched, sy’n cael ei ystyried fel rhywbeth o’r oed a’r amser.”
Mae’r cwest yn parhau.