Mae’r Weinidogaeth Drafnidiaeth yn San Steffan wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu gostwng y lefel yfed a gyrru yng Nghymru a Lloegr, er gwaethaf galwadau diweddar.
Roedd nifer o Gomisiynwyr yr Heddlu yn Lloegr wedi galw am ostwng y lefel fel ei fod yr un fath â’r lefel ddiweddar sydd wedi cael ei osod yn yr Alban.
Ers i’r gyfraith yn yr Alban newid yn Rhagfyr 2014, mae’r lefel dderbyniol o alcohol yn y gwaed wedi gostwng o 80mg o alcohol mewn 100ml, i 50mg o alcohol mewn 100ml.
80mg yw’r lefel gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr o hyd.
Tro pedol?
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Andrew Jones ddydd Mawrth fod Llywodraeth Prydain yn barod i ystyried yr effaith y byddai gostwng y lefel yn yr Alban yn ei chael ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Ond mae’n ymddangos erbyn hyn na fyddan nhw’n cynnal arolwg o’r sefyllfa wedi’r cyfan.
“Does gyda ni ddim cynlluniau i newid y lefel yfed a gyrru,” meddai Andrew Jones. “Does dim arolwg.”
Ychwanegodd fod y gosb ar gyfer yfed a gyrru yn ddigon o ysgogiad i yrwyr beidio ag yfed a gyrru.
Ymateb arbenigwyr
Mae’r elusen Brake wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ostwng y lefel gyfreithlon ac i ddysgu gwersi oddi wrth yr Alban.
“Mae’r arwyddion cynnar yn dangos gostyngiad amlwg mewn troseddau yn yr Alban, fydd ond yn gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn golygu llai o farwolaethau ac anafiadau y gellid fod wedi’u hosgoi.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran yr RAC y gallai gostwng y lefel arbed 25 o fywydau bob blwyddyn.
Ond rhybuddiodd yr AA y byddai gostwng y lefel yn gosod mwy o gyfrifoldeb ar yrwyr i sicrhau nad ydyn nhw dros y lefel gyfreithlon ers y noson gynt pan maen nhw’n gyrru’r bore wedyn.
Hollti barn
Pan ofynnodd golwg360 i Gomisiynwyr Heddlu Cymru am eu barn yn ddiweddar ar drothwy dadl yn San Steffan, roedd hi’n amlwg bod y mater yn un sy’n gallu hollti barn.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys, Christopher Salmon, ei fod o’r farn nad oes angen gostwng y lefel yng Nghymru a Lloegr gan fod y gyfraith fel y mae hi’n ddigon “synhwyrol”.
“Yr egwyddor saffaf yw peidio ag yfed a gyrru,” meddai. “Mae’n rhaid i ni wneud popeth allwn ni er mwyn sicrhau bod pobol yn gwybod hynny.”
Ond awgrymodd Comisiynydd Heddlu Gwent, Ian Johnston mai’r ateb mwyaf synhwyrol fyddai peidio yfed o gwbl cyn gyrru.
“Byddwn yn cefnogi unrhyw ddeddfwriaeth neu fenter a fyddai’n helpu i arbed bywydau pobl ar ein ffyrdd,” meddai yntau.
“Mae’n well peidio yfed o gwbl os ydych yn gyrru.”