Bydd Gwesty Cymru, y gwesty adnabyddus ar y prom yn Aberystwyth, yn ailagor yn fuan o dan reolaeth newydd.
Mae Gareth Evans, cydberchennog bwyty Baravin yn Aberystwyth, wedi cymryd y brydles drosodd.
Ar ôl gwaith adnewyddu, y bwriad yw bod ar agor erbyn diwedd mis Ebrill.
Dan arweiniad Gareth Evans, sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant lletygarwch fel Cyfarwyddwr a Rheolwr Cyffredinol Baravin, y nod yw dod â phrofiad o safon i gwsmeriaid.
Cyn Baravin, bu’n gweithio am saith mlynedd yng Ngwesty’r Harbourmaster, Aberaeron.
“Ar ôl y gwaith adnewyddu, byddwn yn dod â rhywbeth cyffrous a gwahanol i’r prom,” meddai.
“Edrychwn ymlaen i sgwennu’r bennod nesaf yn hanes Gwesty Cymru.”