Mae dwy ddynes wedi eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Nghricieth heddiw.

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad o wrthdrawiad rhwng car VW Polo a char Ford Fiesta ar yr A497 ger Gwesty Bron Eifion toc wedi 12 prynhawn dydd Mawrth, 9 Chwefror.

Cafodd y ddwy ddynes eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle maen nhw’n cael triniaeth am anafiadau difrifol.

Mae’r ffordd bellach wedi ail-agor.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â Swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd y Gorllewin drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod U019505.