Mae E.ON ac Age UK wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gynnig cytundebau ynni yn dilyn beirniadaeth o’r cynllun.

Cafodd Age UK ei beirniadu am ecsbloetio’r ffaith ei bod yn elusen uchel ei pharch yn dilyn honiadau bod E.ON wedi talu £6 miliwn y flwyddyn i’r elusen yn gyfnewid am berswadio’r henoed i arwyddo cytundebau ynni drud.

Mae’n debyg fod yr elusen wedi bod yn argymell tariff arbennig gan E.ON mewn taflenni a llyfrynnau, gan ddweud ei fod yn “helpu i arbed ynni ac arian”.

Dywedodd llefarydd ar ran E.ON bod y cwmni a’r elusen wedi dod i benderfyniad ar y cyd a bod y ddau sefydliad yn “parhau’n hyderus ynglŷn â’r tariffau gafodd eu cynnig i gwsmeriaid.”

“Serch hynny, oherwydd dyfalu parhaus ynglŷn â’r bartneriaeth, mae’r ddau sefydliad yn teimlo ei bod yn briodol i oedi ac ystyried y ffordd orau” i’r ddau  allu parhau i helpu eu cwsmeriaid.

Fe fydd y newid yn dod i rym ar ddydd Mercher, 10 Chwefror.