Mae ystadegau’n dangos cynnydd “aruthrol” yn nifer y bobol LHDTC+ sy’n mabwysiadu a maethu erbyn hyn, o gymharu â degawd yn ôl.
Cyplau o’r un rhyw yw chwarter y bobol sy’n mabwysiadu yng Nghymru erbyn hyn, o gymharu â 10% yn 2012.
Fe fu cynnydd o 23% yn nifer yr aelwydydd maethu LHDTC+ dros y flwyddyn ddiwethaf hefyd.
Wrth i Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ddechrau heddiw (dydd Llun, Mawrth 4), mae’r cyrff sy’n cynrychioli maethu a mabwysiadu yng Nghymru (Maethu Cymru a Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru) yn galw o’r newydd am ymholiadau gan y gymuned LHDTC+ i ddarparu cartrefi diogel a chariadus i’r 7,208 o bobol sy’n derbyn gofal, gan gynnwys tua 300 o’r rhai mae angen eu mabwysiadu.
Wedi’i harwain gan New Family Social, a’i chefnogi yng Nghymru gan NAS a Maethu Cymru, mae Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ yn herio canfyddiadau ynghylch mabwysiadu a maethu, ac yn agor sgyrsiau gonest i annog pobol i ystyried ymholi.
Martin a Josh o’r Rhondda
Mabwysiadodd Martin a Josh o’r Rhondda drwy Wasanaeth Mabwysiadu Bae’r Gorllewin yn 2020, ar ôl cyfarfod â rhai o dîm mabwysiadu PRIDE Cymru yn 2019.
“Byddwn i’n disgrifio ein hunain fel pobl hoyw diflas sy’n eistedd i mewn ar nos Sadwrn ac yn gwylio Strictly, felly dydyn ni ddim i mewn i’r ‘sîn hoyw’ a doedden ni ddim yn adnabod unrhyw barau o’r un rhyw oedd wedi mabwysiadu,” meddai Martin.
“Roedd mabwysiadu yn rywbeth oedd yng nghefn meddwl y ddau ohonom, ond nid tan i ni gwrdd â thîm Bae’r Gorllewin yn PRIDE yn 2019 y cafodd y syniad i ymgymryd â’r daith i fod yn rhieni ei gadarnhau.
“Mae mabwysiadu wedi rhoi’r cyfle i ni ddod yn rhieni i’n bachgen bach direidus; rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at ymestyn ein teulu trwy fabwysiadu unwaith eto a gwneud ein mab yn frawd mawr.”
Emma a Joanna o Sir Gaerfyrddin
Mae Emma a Joanna o Sir Gaerfyrddin yn athrawon.
Dechreuon nhw faethu fis Ionawr diwethaf.
“Rydym wedi gweithio mewn gwahanol rolau gyda phlant a phobol ifanc am yr ugain mlynedd diwethaf, ac roeddem eisiau rhoi yn ôl i blant oedd angen cymorth a chefnogaeth,” meddai Emma.
“Rydym am geisio helpu’r plant hynny i oresgyn yr hyn y maent wedi bod drwyddo yn y gorffennol.
“Rydych chi’n poeni os yw’r plentyn yn mynd i setlo.
“Ond rydych chi mor awyddus i’w helpu.
“Rydyn ni wedi bod ar lwyth o anturiaethau gwahanol yn yr awyr iach, i weld beth mae hi’n ei hoffi.
“Roedd e mor wych ei gweld hi’n mwynhau a dangos rhannau o Gymru iddi nad oedd hi wedi’u gweld o’r blaen.
“Mae hi wedi integreiddio’n dda iawn i’r teulu.”
Ymgyrch 2024
Mae Maethu Cymru a Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ymhlith 120+ o asiantaethau mabwysiadu a maethu ledled y Deyrnas Unedig sy’n cefnogi ymgyrch 2024.
Eleni, bydd yr wythnos yn cynnwys gweminar gwybodaeth yn cynnwys pobol LHDTC+ o grwpiau ethnig lleiafrifol sydd wedi mabwysiadu neu faethu, a hyfforddiant am ddim i ymgeiswyr a gweithwyr proffesiynol ar sut i baratoi pobol LHDTC+ ar gyfer mabwysiadu neu faethu trawshiliol.
“Dylai ymgeiswyr posibl LHDTC+ o grwpiau ethnig lleiafrifol gyfrif eu hunain fel darpar fabwysiadwyr neu ofalwyr maeth, nid diystyru eu hunain,” meddai Tor Docherty, Prif Weithredwr New Family Social.
“Mewn byd delfrydol byddai pob plentyn sy’n derbyn gofal yn dod o hyd i leoliad gyda theulu oedd yn rhannu eu diwylliant a’u treftadaeth.
“Lle na all hyn ddigwydd, rhaid i asiantaethau weithio’n galed i helpu ymgeiswyr LHDTC+ i ddeall sut i ddiwallu anghenion diwylliant a threftadaeth eu plentyn.”
Sgyrsiau pwysig
“Ein nod yw ateb unrhyw un o’r cwestiynau a allai fod gan bobol, ac rydym yn ddiolchgar i’r teuluoedd a gymerodd ran am rannu eu straeon wrth iddyn nhw gyfrannu at sgyrsiau pwysig ynghylch mabwysiadu a maethu, a helpu i herio canfyddiadau hen ffasiwn,” meddai Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru.
“Mae ein gwasanaethau wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd ar bob cam o’u taith, gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth drwy gydol y daith.
“Os hoffech ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs, byddem yn eich annog i estyn allan i’ch gwasanaeth lleol a gwneud ymholiad.”
- Gallwch ddilyn Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ar-lein a thrwy Twitter (@lgbtadoptfoster) a Facebook (@newfamilysocial). I gael rhagor o wybodaeth am faethu ewch i: https://maethucymru.llyw.cymru / I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu yng Nghymru: adoptcymru.com