Mae archfarchnad Aldi wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg – y canfed sefydliad i’w dderbyn.

Mae pedwerydd groser mwyaf Cymru wedi cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i gyflwyno’r Gymraeg ym mhob un o’u siopau ledled Cymru.

Cydnabyddiaeth swyddogol y Comisiynydd yw’r Cynnig Cymraeg, a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.

Mae’n cefnogi cynllun hirdymor y Comisiynydd i sicrhau y gall pobol ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau, ac ar draws Cymru.

Mae Aldi wedi buddsoddi yn y defnydd o’r Gymraeg mewn nifer o ffyrdd mewn mwy na 50 siop yng Nghymru gan gynnwys:

  • cyhoeddiadau hunan-dalu a dangosfeydd yn ddwyieithog
  • arwyddion mewn siopau yn Gymraeg neu’n Gymraeg ac yn Saesneg
  • gweithwyr sydd yn medru’r Gymraeg yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith a theitlau eu swyddi yn arddangos yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • taflenni / deunyddiau marchnata ar gyfer siopau newydd wedi’u hargraffu yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • cyhoeddiadau sy’n hysbysu cwsmeriaid am agor a chau tiliau yn ddwyieithog
  • cynnyrch Cymreig brand eu hunain i gael deunydd lapio dwyieithog, gan gynnwys llaeth, menyn, caws a chig

‘Ymgorffori’r Gymraeg’

“Mae’n bwysig i Aldi fod yn rhan o’r gymuned leol a bod yn fanwerthwr cynhwysol i bob cwsmer ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Dan Oakenfull, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Aldi.

“Rydym yn angerddol am y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt ac rydym am hyrwyddo’r pethau sydd bwysicaf i’n cwsmeriaid.

“Mae hyn yn cynnwys chwilio am ffyrdd o ymgorffori’r Gymraeg yn y siopau hyn i gynnal treftadaeth cymunedau yn ogystal â chefnogi’r gwerthoedd sydd gan ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid.”

‘Hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg’

Dywed Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, ei bod yn hynod o falch o ymrwymiad Aldi.

“Rydym yn gyffrous iawn i allu dyfarnu’r Cynnig Cymraeg i Aldi ac yn falch o’u cefnogaeth i’n hymdrechion i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd,” meddai.

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i fusnesau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg ac a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg.

“Wrth longyfarch Aldi ar ei lwyddiant, hoffwn annog sefydliadau tebyg eraill i weithio gyda ni i ddatblygu a gwella eu Cynnig Cymraeg.”