Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru alw am gynllun taliadau ffermio “tecach” a “mwy ymarferol” yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid dros y penwythnos (Mawrth 2 a 3).
Yn ystod y gynhadledd yng Nghaerdydd, bu trafodaethau ynglŷn â gofal plant, cyllid llywodraeth leol, a darparu cynllun taliadau ffermio “tecach”, ymhlith pynciau eraill.
Yn dilyn y brotest yn erbyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd ddydd Mercher (Chwefror 28), mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw am gynllun taliadau ffermio “hyfyw” a “chynaliadwy”.
Yn eu cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru eu bod yn torri 13% oddi ar y gyllideb materion gwledig, sy’n cyfateb i golled o £62m mewn cyllid.
Galw am gynllun taliadau ffermio ‘tecach’
“Ein safbwynt ni fel plaid erioed fu sefyll dros ddiddordebau ein cymunedau ffermio yma yng Nghymru, a dydy hyn heb newid,” meddai Jane Dodds.
“Rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol fod llawer o ffermwyr yn cefnogi’r awydd i wneud ffermio sy’n gyfeillgar i natur yn safon ar draws Cymru.
“Ond pan maen nhw’n cael rhywbeth mor gymhleth â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae’r ffermwyr hyn ar yr un pryd yn gwbl bryderus am y posibilrwydd o drawsnewid.
“Mae’n rhaid i ni gynnig cynllun hyfyw a chynaliadwy iddyn nhw sy’n anelu at adeiladu gwytnwch a hybu economïau gwledig ffyniannus, tra ar yr un pryd yn blaenoriaethu’r Gymraeg.
“Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy presennol sydd wedi’i gynnig gan Lafur Cymru yn bell iawn o gyflawni’r blaenoriaethau allweddol hyn.
“Ni allwn fforddio dieithrio ein cymuned ffermio, yn enwedig pan fyddan nhw yn barod i weithio gyda ni wrth drosglwyddo i ddull mwy gwyrdd o ffermio.”
Gofal plant am ddim i bawb
Un o brif gynigion y penwythnos gan y Democratiaid Rhyddfrydol oedd gofal am ddim i blant o naw mis oed hyd at oedran ysgol.
Mae’r blaid hefyd wedi galw am fwy o gefnogaeth i ofal ac am ariannu gweithgareddau gwyliau.
Roedd y blaid eisoes wedi lansio’r adroddiad Cau’r Bwlch – Gofal Plant yng Nghymru fis Hydref y llynedd, ac fe gafodd ei gymeradwyo’n llawn yn y gynhadledd.
“Gofynnwch i unrhyw riant neu warchodwr yng Nghymru am eu profiadau o gael gofal plant ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n clywed cyfran deg o straeon arswyd,” meddai Jane Dodds.
“Mae teuluoedd ledled y wlad yn wynebu tasg sydd bron yn amhosibl o ddod o hyd i ofal plant fforddiadwy a hawdd ei gyrraedd, gyda llawer yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng talu miloedd o bunnoedd neu roi’r gorau i weithio.
“Ni ddylai hyn fod yr achos, rhaid i ofal plant fod yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb.
“Rwy’n falch iawn bod ein plaid ar flaen y gad o ran darparu ateb i’r hunllef hon sydd wedi achosi straen diangen i gymaint o deuluoedd.”
Annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol i gynghorau
Manteisiodd y blaid ar y cyfle yn y gynhadledd i alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd.
Yn ôl amcangyfrifon gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae cynghorau yng Nghymru yn wynebu pwysau cyllidol o £720m yn 2024-25, gyda chyllid mewn termau real ar gyfer llywodraeth leol 12% yn is yn 2023-24 nag yr oedd yn 2009-10.
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun hirdymor i weithio tuag at adfer cyllid llywodraeth leol i lefelau 2009-10 mewn termau real.
“Mae ein hawdurdodau lleol yma yng Nghymru wedi cael eu gadael i ddelio ar eu pen eu hunain â bwlch ariannu difrifol, a grëwyd gan gamreoli ariannol llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig,” meddai Jane Dodds.
“Rwy’n gwybod bod llawer o gynghorau wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ran eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, a dyna pam rydyn ni wedi pasio’r cynnig hwn heddiw.
“Rydym ni fel plaid yn galw am gyllid ychwanegol i’n hawdurdodau lleol sy’n ei chael hi’n anodd yma yng Nghymru, i atal y llanw o doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus a chynnydd yn y dreth gyngor.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddod â’u gweithredoedd at ei gilydd o’r diwedd a rhoi cynllun hylaw hirdymor ar waith i helpu i adfer cyllid llywodraeth leol yn ôl i’r man lle’r oedd yn 2009/10.”