Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, wedi croesawu ymchwiliad i brydlondeb a dibynadwyedd trenau gwael yn rhanbarth Network Rail Cymru a’r Gorllewin.

Lansiodd y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd yr ymchwiliad ddiwedd y llynedd, yn dilyn dirywiad parhaus mewn perfformiad yn y rhanbarth hwn.

Daw hyn er gwaetha’r ffaith fod y rhwydwaith ehangach ledled gwledydd Prydain wedi gweld y perfformiad yn sefydlogi.

Fel rhan o ymchwiliad y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, mynychodd Ben Lake ddigwyddiad yn San Steffan i gyfleu pryderon trigolion Ceredigion am y gwasanaethau rheilffordd o Aberystwyth i Amwythig.

Dywed ei fod e hefyd wedi ysgrifennu at gorff Trafnidiaeth Cymru er mwyn gofyn pa gynnydd sy’n cael ei wneud i uwchraddio’r gwasanaeth.

Perfformiad yn ‘parhau i ddirywio’

Yn ôl Ben Lake, mae safon gwasanaethau rheilffyrdd yn rywbeth sydd wedi bod yn destun pryder yn ei etholaeth.

“Mae ansawdd y gwasanaeth i deithwyr ar reilffordd y Cambrian yn bryder i nifer o drigolion Ceredigion, ac rwyf wedi derbyn sawl cwyn am oedi difrifol a diffyg cerbydau ar wasanaethau sy’n rhedeg rhwng Aberystwyth a’r Amwythig,” meddai.

“Er bod Network Rail wedi dechrau gwneud cynnydd ar ei berfformiad mewn mannau eraill ar y rhwydwaith, mae perfformiad yn rhanbarth Cymru a’r Gorllewin wedi parhau i ddirywio, gan gyfrannu at wasanaeth llai dibynadwy a phrydlon i deithwyr.”

Dywed ei fod yn cefnogi ymchwiliad Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, a’i fod yn ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad.

“Rwy’n gobeithio y bydd canlyniadau’r ymchwiliad hwn yn sicrhau bod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd fel bod teithwyr yn gallu mwynhau gwasanaeth dibynadwy o safon y maent yn ei haeddu ar reilffordd y Cambrian cyn bo hir,” meddai.