Mae angen i blant ddysgu nofio erbyn diwedd tymor yr haf, yn ôl cynghorydd blaenllaw ar drothwy toriadau i wersi nofio mewn ysgolion allai ddod i rym o fis Medi.

Gallai toriad o 8.5% yn y cytundeb rhwng Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure, sy’n galluogi ysgolion i ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon a phyllau nofio, ddod fel rhan o’r cynigion ar gyfer cyllideb 2024-25.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, Ionawr 30, fe wnaeth aelodau’r pwyllgor craffu Dysgu a Sgiliau feirniadu’r penderfyniad i dorri ychydig dros £177,000 yn 2024-25 o’r cytundeb gyda Freedom Leisure – sy’n werth oddeutu £2m y flwyddyn.

Mae disgwyl canfod £265,000 yn rhagor yng nghyllideb 2025-26.

Mae disgwyl i gyllideb y Cyngor godi i £340.7m y flwyddyn nesaf.

Mae’r gyllideb hefyd yn cynnwys £10.652m o doriadau, arbedion ac incwm mae angen i’r Cyngor eu gwneud er mwyn mantoli’r gyllideb erbyn diwedd Mawrth 2025.

Dywedodd Jenny Ashton, y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol dros dro, wrth y pwyllgor fod angen “gweithio trwy” fanylion y toriadau a chytuno arnyn nhw ag ysgolion.

Hefyd, mae angen i Freedom Leisure ateb y Cyngor er mwyn “creu opsiynau” i helpu i gyrraedd y targed arbedion, meddai.

‘Cynnig mwy teg’

Dywed Jenny Ashton mai’r rheswm am y cynnig yw darparu “cynnig mwy teg” ar gyfer disgyblion ysgol.

“Does gennym ni ddim gwir ddealltwriaeth o’r effaith ar blant ar hyn o bryd,” mddai Margaret Evitts, aelod lleyg a chyn-brifathrawes.

Gofynnodd pryd fydd rhagor o fanylion yn dod i’r pwyllgor, gan fod hynny’n “bwysig iawn”.

“Mae’r holl arbedion hyn wedi’u cysylltu â’i gilydd gyda’r adolygiad ar Bowys cynaliadwy a hamdden,” meddai Diane Reynolds, y Cyfarwyddwr Datblygiad a Thwf Economaidd newydd.

“Rydyn ni’n ceisio sicrhau ei fod yn edrych yr un fath i bob plentyn, a’u bod nhw’n cael cyfle cyfartal i nofio neu i gael ymarfer corff.

“Fydd e ddim yn dod i rym tan y flwyddyn ysgol newydd, felly mae gennym ni amser i ddatrys hynny.”

“Gormod” o nofio?

Dywed Jane Thomas, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, fod rhai ysgolion yn gwneud “gormod” o nofio, ac y byddai’r cynnig hwn yn “rhyddhau” mynediad at gyfleusterau chwaraeon i’r cyhoedd ar adegau sydd fel arfer wedi’u neilltuo at ddefnydd ysgolion.

“Mae defnydd y cyhoedd yn ystod y dydd yn anodd ar rai safleoedd, gan eu bod nhw ynghlwm wrth ysgolion – mae gen i amheuon na fyddai’r pwll na’r ystafelloedd newid ar gael,” meddai’r Cynghorydd Aled Davies, arweinydd y Grŵp Ceidwadol.

“Mae gen i bryderon gwirioneddol am hyn, gan fod cymaint yn ansicr.

“Byddwn i’n annog pob plentyn i ddysgu nofio erbyn Gorffennaf a diwedd y tymor ysgol, gan nad ydyn ni’n gwybod beth fydd yn digwydd ar ôl yr haf.”

‘Codi bwganod’

Fe wnaeth y Cynghorydd Pete Roberts, y Democrat Rhyddfrydol a deilydd y portffolio addysg, alw sylwadau “gwamal” y Cynghorydd Aled Davies yn rhai sy’n “codi bwganod”, ac roedd e am “sicrhau rhieni” nad felly y byddai hi.

“Dw i’n rhannu hyder swyddogion fod yr arbedion yn gyraeddadwy; fel arall, fydden ni ddim yn edrych arno fe.

“Mae sut i gyflwyno’r cwricwlwm yn ddewis lleol i ysgolion, a byddwn ni’n gwneud popeth i’w cefnogi nhw pan ddaw i nofiol.”

“Os ydych chi’n dweud nad oes modd cyflwyno’r arbedion yma, hoffwn glywed pa opsiwn arall hoffech chi ei roi yn y gyllideb,” meddai David Thomas, y Cynghorydd Llafur a deilydd y portffolio cyllid.

“Yn ôl pob tebyg, does dim opsiwn amgen a’r unig ffordd y gallech chi dalu am yr arbedion yw drwy gynyddu Treth y Cyngor.”

‘Siomedig iawn’

“Dw i’n siomedig iawn am hyn,” meddai’r Cynghorydd Gwynfor Thomas, cadeirydd Ceidwadol y pwyllgor.

“Rydyn ni’n clywed geiriau o ran tegwch, ond dim byd am ddyhead, ac mae hynny’n fy mhoeni.”

Mae’n synhwyro “llawer iawn” o anesmwythyd ymhlith aelodau’r pwyllgor ynghylch y cynnig, meddai.

“Rydyn ni’n aneglur iawn ynghylch yr hyn sy’n cael ei gynnig, sut mae ei wireddu a’r canlyniad i’r plentyn,” meddai.

Bydd sylwadau o gyfarfodydd y pwyllgor craffu ynghylch y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet mewn cyfarfod yn ddiweddarach y mis yma, ac mae disgwyl i’r gyllideb gael ei thrafod yng nghyfarfod y Cyngor ar Chwefror 22.

Mae Freedom Leisure, sy’n gwmni nid-er-elw, yn rhedeg 13 o ganolfannau hamdden a chwaraeon a phyllau nofio ym Mhowys, a chawson nhw gytundeb pymtheg mlynedd yn 2015 i redeg y cyfleusterau.

 

Byd-Dwr-Wrecsam-1

Gwersi nofio bellach ar gael yn Gymraeg yn Wrecsam

Fe fu’r Cyngor yn ceisio recriwtio athro neu athrawes ers dros flwyddyn