Mae ymgyrchwyr yng Nghaerdydd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ynghylch pa mor hir y bydd yn ei gymryd cyn y daw rhagor o dystiolaeth am waith cladin hanfodol i’r fei.

Fe wnaeth Rhys ab Owen, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru, ofyn i Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddarparu cofnod o’r gwaith sydd wedi’i wneud gan ddatblygwyr ers iddyn nhw lofnodi cytundeb datblygwyr Llywodraeth Cymru.

Aeth bron i flwyddyn heibio ers i brif ddatblygwyr Cymru lofnodi’r cytundeb cyfreithiol, sy’n eu hymrwymo nhw i gwblhau gwaith diogelwch tân ar adeiladau canolig ac uchel ledled y wlad.

“Mae fy swyddogion yn gweithio ar hyn o bryd ar sut orau i gyflwyno’r data trwsio sydd ar gael gyda deiliaid les a thrigolion,” meddai Julie James wrth ateb cwestiwn Rhys ab Owen.

“Rydyn ni’n gweithio tuag at roi hyn ar gael ar-lein dros y misoedd i ddod.”

‘Hollol annerbyniol’

Fe wnaeth un grŵp o drigolion Caerdydd sy’n brwydro am gael trwsio diffygion adeiladu, Ripped off by Redrow, alw ymateb Julie James yn “hollol annerbyniol”.

Fe wnaeth criw arall o ymgyrchwyr, Welsh Cladiators, alw cyflymdra’r gwaith trwsio sydd wedi’i wneud ar adeiladau yng Nghymru’n “wael”.

“Bron i ddeuddeg mis ers cytundeb datblygwyr [Llywodraeth Cymru], ac maen nhw’n dal i weithio allan sut i adrodd am y diffyg cynnydd ar ryw 70 a mwy o safleoedd,” meddai Welsh Cladiators ar X (Twitter gynt).

Daeth cyhoeddiad fis Mawrth y llynedd fod chwech o ddatblygwyr wedi llofnodi’r cytundeb, gan gynnwys Redrow, McCarthy Stone, Lovell, Vistry, Persimmon a Countryside.

Dywedodd Taylor Wimpey, Crest Nicholson a Barrett ar y pryd eu bod nhw’n bwriadu ei lofnodi.

Hyd yn hyn, mae un adeilad sydd angen gwaith trwsio wedi’i gwblhau, ac mae gwaith ar y gweill ar 34 i ddatrys materion yn ymwneud â diogelwch tân.

Mae disgwyl i waith ddechrau ar 34 adeilad arall eleni.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“O dan amodau cytundeb Llywodraeth Cymru, mae monitro chwarterol yn digwydd ar y cyd â datblygwyr, sy’n cynnwys craffu ar gynnydd presennol, cynlluniau’r dyfodol a chyfathrebu,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Gall y gwaith o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â diogelwch tân fod yn gymhleth, gall ofyn am sgiliau arbenigol a chaniatâd priodol i gwblhau’r gwaith, all gymryd peth amser.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n cydweithio â datblygwyr ac eraill i ddileu unrhyw rhwystrau posib i sicrhau bod gwaith yn parhau mor gyflym â phosib.

“Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi data yn y flwyddyn ariannol newydd.”

Mae gwaith ar y gweill hefyd i ailddylunio tudalennau diogelwch adeiladu gwefan Llywodraeth Cymru, fydd yn cynnwys data yn ogystal â gwybodaeth arall i randdeiliaid.