Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cytuno i gynnal astudiaeth i Bont Fawr yn Llanrwst oherwydd problemau traffig a difrod.

Daw hyn ar ôl i Janet Finch-Saunders, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Aberconwy, ymgyrchu i ddod o hyd i ddatrysiad i’r broblem.

Dywed y Cynghorydd Alun Jones, Maer Llanrwst, ei fod yn arfer croesi’r bont i’r ddau gyfeiriad bob dydd ers tua 25 o flynyddoedd.

“Oedd yna wastad broblem bod traffig yn dod i gwrdd â ni, ac fel pobol leol roedden ni’n ddigon bodlon rifyrsio yn ôl, ond dydy pawb ddim mor gwrtais,” meddai wrth golwg360.

“Mae hynny’n golygu bod yna dipyn o hold-ups ar y bont.”

Ychwanega nad oedd y bont yn arfer achosi cymaint o drafferth ag y mae’n ei wneud erbyn hyn.

“Dydw i ddim yn gwybod os ydy’r lorïau wedi mynd yn fwy, ’ta beth,” meddai.

“Poeni’n fawr” am y difrod

Yn ôl Alun Jones, mae o wedi clywed sawl awgrym o ran yr hyn ddylai gael ei wneud yn sgil y sefyllfa.

Mae’n croesawu’r ffaith fod astudiaeth wedi’i addo erbyn hyn.

Yn ogystal â phroblemau traffig, fe fu sawl achos o’r bont yn cael ei difrodi wrth i gerbydau mawr fel lorïau a bysiau ei chael hi’n anodd ar y troad cul dros y bont.

Dywed fod hyn yn rywbeth mae eisiau gweld yn cael ei ddatrys.

“Mae yna dueddiad i’r cerbydau mawr yma glipio cornel y bont, sydd yn achosi difrod,” meddai.

“Rydyn ni’n poeni’n fawr am y ffordd mae’r bont yn cael ei difrodi.”

Ychwanega fod y bont yn dueddol o gael ei difrodi ddwy neu dair gwaith bob blwyddyn, yn enwedig yn y gwanwyn a’r haf wrth i nifer y cerbydau gynyddu.

Ystyried yr opsiynau

O ran yr astudiaeth, dydy Alun Jones ddim eto’n siŵr beth fyddai’r opsiwn gorau.

Dywed fod rhai eisiau gweld llai o draffig yn cael defnyddio’r bont.

“Dw i wedi clywed lot yn sôn am atal traffig dros y bont a gwneud o i gerddwyr yn unig,” eglurodd.

“Dydw i ddim hollol o blaid hynny; dw i’n meddwl bod pobol ochr Dolgarrog yn dibynnu ar drafnidiaeth a bysus i ddod â nhw i mewn i’r dref.”

Yn ôl Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, bydd yr astudiaeth yn cael ei chynnal yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf “yn amodol ar flaenoriaethu a chyllid”.

Dywed y bydd yr astudiaeth yn cynnwys “dyluniad ar gyfer adliniad palmant/marcio ffordd ar yr A470, i atal cerbydau mwy rhag crafu a difrodi parapet y bont pan fyddan nhw yn troi i’r chwith i’r strwythur”.

Blynyddoedd o ymgyrchu

Er ei bod hi’n siomedig ei bod wedi cymryd cyhyd, mae Janet Finch-Saunders wedi croesawu’r newyddion.

“Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu i amddiffyn Pont Fawr, rydw i wrth fy modd bod yna astudiaeth ar y cyd nawr yn mynd i gael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy,” meddai.

“Rwyf bob amser wedi haeru bod angen i’r ateb gynnwys yr A470, felly rwy’n falch bod llywodraethau lleol a chenedlaethol yn gwrando.

“Ar ôl cymaint o wrthdrawiadau ar y bont, mae’n drueni ei bod wedi cymryd blynyddoedd o lythyrau ac e-byst oddi wrthyf i gael cyrff cyhoeddus i gymryd dyfodol Pont Fawr o ddifrif.”