Mae un o lywodraethwyr ysgol gynradd Gymraeg sydd dan fygythiad yn Sir y Fflint wedi cyhuddo’r cyngor o ragrith ac anghysondeb yn eu hagwedd tuag at yr iaith.
Bydd Pwyllgor Craffu’r cyngor yn cyfarfod heddiw i drafod dyfodol Ysgol Gymraeg Mornant, Picton ger Ffynnongroyw, yr unig ysgol gynradd Gymraeg yng ngogledd y sir.
Cwymp yn niferoedd y disgyblion sydd yn rhannol gyfrifol am fwriad y cyngor i gau’r ysgol, gan mai dim ond 44 sydd wedi cofrestru yno eleni er bod yr ysgol yn gallu dal hyd at 111.
Pwysleisiodd swyddogion o’r cyngor y byddai’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar 16 Chwefror, fodd bynnag, pan fydd adroddiad y pwyllgor yn cael ei gyflwyno i gyfarfod llawn y cyngor.
Ond dywedodd John Thompson, un o’r llywodraethwyr sydd wedi bod yn rhan o’r ymgyrch i achub yr ysgol, wrth golwg360 eu bod yn “siomedig iawn” â chynlluniau’r cyngor a bod disgwyl gwrthdystiad y tu allan i’r cyfarfod heddiw.
Eisteddfod ar y ffordd
Mae Ysgol Gymraeg Mornant yn un o bump o ysgolion cynradd Cymraeg yn Sir y Fflint ar hyn o bryd.
Ond petai’n cau ei drysau byddai’n rhaid i blant lleol deithio i Brestatyn neu Dreffynnon am addysg Gymraeg, pellter fyddai’n golygu y byddai llawer o rieni’n debygol o ddewis ysgolion di-Gymraeg agosach yn ôl ymgyrchwyr.
Ac fe fyddai hynny yn anfon y neges anghywir ar drothwy’r sir yn croesawu gŵyl ieuenctid fwyaf Cymru ym mis Mai, yn ôl John Thompson.
“Mae gan y rhan fwyaf o rieni fywydau prysur – fe fydden nhw’n hoffi anfon eu plant i ysgol Gymraeg os oes un yn lleol, ond os nad ydi o yno fe fydd y rhan fwyaf yn dewis ysgol Saesneg sydd filltir neu ddwy i ffwrdd,” meddai John Thompson, sydd yn wreiddiol o Lerpwl.
“Mae’n benderfyniad hurt a dweud y gwir. Mae gennym ni’r Eisteddfod yn dod yn yr haf, ac mae’n debyg eu bod nhw wedi gwario £150,000 ar ddenu hwnnw.
“Mae’n gyfle gwych i ddenu pobl i siarad Cymraeg, ond nid ydych am wneud hynny os ydych chi’n cau’r ysgolion.”
Magu ethos Gymreig
Er nad yw John Thompson ei hun yn siarad Cymraeg fe anfonodd ei ddau o blant i Ysgol Mornant a bellach mae ei wyres hefyd yn ddisgybl yno.
Ac mae’n mynnu bod gan Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd i annog Cymreictod wrth gefnogi addysg Gymraeg, yn lle “gwario’u harian i gyd yn ardal Glannau Dyfrdwy”.
“Dylai’r cyngor fuddsoddi mwy mewn addysg Gymraeg. Rydan ni’n byw yng Nghymru, felly pam na ddylai pobl gael eu hannog i ddysgu Cymraeg?” gofynnodd y llywodraethwr.
“Allwch chi ddim dysgu Cymraeg am ddwy awr yr wythnos yn yr ysgol uwchradd, fel ces i.
“[Gydag addysg Gymraeg] rydych chi’n creu dinasyddion sydd yn meddwl yn Gymraeg, credu mewn Cymraeg.
“Dydi Cymreictod ddim jyst yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn y rygbi ar ddydd Sadwrn, mae angen diwylliant ac ethos Gymreig hefyd.
“Os nad ydi’r cyngor yn mynd i sefyll fyny dros bobl Cymru, pwy sydd am wneud? Ddylen ni ddim gorfod dibynnu ar Sgowsars fel fi!”
Stori: Iolo Cheung