Mae miliynau o geir Honda ledled y byd yn gorfod cael eu harchwilio yn dilyn problem gyda’r bagiau gwynt sy’n gallu ffrwydro gan wasgaru shrapnel yn y cerbyd.
5.7 miliwn o geir sy’n cael eu galw yn ôl i’w harchwilio ar hyn o bryd gan y cwmni mawr o Siapan, gyda 440,000 ohonyn nhw yn Siapan a 2.2 miliwn yn yr Unol Daleithiau.
Doedd y cwmni ddim am gyhoeddi ble oedd y ceir eraill sy’n cael eu hamau o fod yn ddiffygiol. Dywedodd llefarydd ar ran Honda eu bod nhw’n trafod gyda’r awdurdodau perthnasol ym mhob gwlad.
Mae bagiau gwynt Takata, y cwmni sy’n cynhyrchu bagiau gwynt Honda, yn gallu ffrwydro os bydd gormod o bwysau arnyn nhw, gan chwythu tun metal yn ddarnau.
Mae o leiaf 11 o bobol wedi cael eu lladd ledled y byd o ganlyniad i’r broblem, ac mae 139 o bobol eraill wedi cael niwed.